Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 308KB) Gweld fel HTML (282KB)

 

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwenda Thomas AC a Joyce Watson AC. Dirprwyodd Jenny Rathbone AC ar ran Joyce Watson AC.

(10.00-11.00)

2.

Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Rob Halford, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio, Llywodraeth Cymru

Geraint Green, Pennaeth Busnes ac Arloesedd, Llywodraeth Cymru

Steven Davies, Pennaeth Cyllid Arloesol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Gwnaeth Jenny Rathbone AC ddatgan buddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd.

2.2 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

  • Unrhyw ddata cyffredinol am gyfraniad sefydliad yn y rownd gyntaf o alwadau o dan raglenni ariannu amrywiol yr UE (Erasmus+, Creative Europe, COSME ac ati).

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhestr ddiwygiedig o gynlluniau Cymru sydd â'r potensial i gael gafael ar arian drwy'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol.

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Bil Drafft Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

4.2

Llythyr gan y Comisiynydd Pobl Hŷn ynghylch Cyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl dros 50 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(12.00-12.15)

6.

Trafodaeth ar bwyllgorau'r Pedwerydd Cynulliad

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar bwyllgorau'r Pedwerydd Cynulliad.

(11.00-12.00)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lysgenhadon Ariannu'r UE

Grahame Guilford, Llysgennad Cyllid yr UE

Hywel Ceri Jones, Llysgennad Cyllid yr UE

Gaynor Richards, Llysgennad Cyllid yr UE

 

Cofnodion:

3.1 Gwnaeth Dafydd Elis-Thomas AC ddatganiad ei fod yn Ganghellor a Chadeirydd  Prifysgol Bangor, sefydliad sydd wedi derbyn cyllid Ewropeaidd ac sy’n disgwyl derbyn rhagor o gyllid Ewropeaidd. Mae Prifysgol Bangor hefyd wedi derbyn benthyciad sylweddol yn ddiweddar gan Fanc Buddsoddi Ewrop.

3.2 Atebodd Llysgenhadon Ariannu'r UE gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.