Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 326KB) Gweld fel HTML (322KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwenda Thomas AC, Mick Antoniw AC, Rhun ap Iorwerth AC a Jeff Cuthbert AC. Dirprwyodd Jenny Rathbone AC ar ran Jeff Cuthbert AC.

(09.30-10.45)

2.

Sesiwn ddiweddaru gyda'r Adran Drafnidiaeth

Colin Poole, Rheolwr Strategaeth Rheilffyrdd Rhanbarthol, Yr Adran Drafnidiaeth

Tom Oscroft, Cynghorydd Polisi, Is-adran Masnach Morol a Seilwaith, Yr Adran Drafnidiaeth

Stephen Fidler, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Bysiau a Thacsis, Yr Adran Drafnidiaeth

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Colin Poole, Tom Oscroft a Stephen Fidler.

2.2 Datganodd Dafydd Elis-Thomas AC fod ganddo gerdyn teithio rhatach Llywodraeth Cymru a ddyroddir iddo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

(11.00-11.40)

3.

Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru

Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad, Aelod Pwyllgor y Rhanbarthau (eilydd)

Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC a Gregg Jones.

3.2 Cytunodd Gregg Jones i ystyried sut mae gwledydd eraill yn codi arian i wireddu potensial yr economi forol â sylw penodol ar arferion yn Iwerddon.

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Buddsoddi ar y Cyd mewn Sgiliau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.2

Banc Datblygu i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.3

Colli swyddi ar raddfa fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.4

Potensial yr Economi Forol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.5

Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11.40-12.00)

6.

Y Flaenraglen Waith

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Flaenraglen Waith.