Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru

Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i wasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ynghylch:

 

  • Sefyllfa bresennol y sector bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, gan gynnwys y rhesymau dros y gostyngiad diweddar mewn gwasanaethau bysiau cofrestredig a nifer y teithwyr bysiau fel ei gilydd.
  • Effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gostyngiad diweddar yn y gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr.
  • Y manteision arfaethedig, neu fel arall, o ddatganoli pwerau dros gofrestru bysiau a gynigiwyd ym Mhapur Gorchymyn Llywodraeth y DU -  Pwerau at Bwrpas: Tuag at Setliad Datganoli sy’n Para’ ym mis Chwefror 2015, ac a fyddai pwerau pellach i reoleiddio’r diwydiant bysiau yn ddymunol.
  • Y camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn diwallu anghenion Cymru.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/08/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau