Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru
Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru
Cynhaliodd
Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i ddatblygu potensial yr economi forwrol.
Gofynnodd
y Pwyllgor am farn ynghylch:
- Dull Llywodraeth
Cymru o weithredu ynghylch datblygu potensial yr economi forol;
- Sut y mae
ffynonellau cyllid yr UE yn cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad yr
economi forol;
- Sut y mae
Cymru'n ymgysylltu â mentrau ar lefel yr UE, fel Ocean Energy Europe a Fforwm
Ynni'r Cefnforoedd;
- Effeithiolrwydd
porthladdoedd Cymru a chysylltiadau trafnidiaeth â’r gefnwlad o ran
hyrwyddo cysylltedd ag Iwerddon a gweddill Cymru;
- Y modd y
mae'r Ardaloedd Menter yn hyrwyddo'r porthladdoedd a busnesau
cysylltiedig;
- Sut y mae
porthladdoedd Cymru, gweithredwyr fferi a busnesau cysylltiedig yn gallu
elwa ar y broses o ddatblygu'r economi forol, gan gynnwys ynni'r môr, a
chefnogi'r broses honno;
- Pa
gefnogaeth, os o gwbl, y dylid eu darparu er mwyn sicrhau bod y manteision
yn cael eu gwireddu yn y modd mwyaf effeithiol;
- Goblygiadau'r
cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi, sy'n cynnig datganoli
cyfrifoldeb dros bolisi porthladdoedd i Gymru, a sut y gall hyn gefnogi
cysylltedd a'r broses o ddatblygu'r economi forol;
- Sut y gall
Cymru fanteisio ar bwysigrwydd strategol mentrau arfaethedig fel y
prosiectau môr-lyn llanw yng ngorllewin Cymru a'r Rhaglen Ynys Ynni Môn.
- Byddem yn
ddiolchgar pe gallech gysylltu â ni, gan roi eich barn ar y prif rwystrau
a'r risgiau sy'n bodoli o ran datblygu ynni'r môr a sut y gall Gymru
oresgyn y rhain.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2015
Dogfennau
- Adroddiad - Potensial yr Economi Forwrol yng Nghymru (PDF 1 MB)
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Mawrth 2016 PDF 181 KB
- Crynodeb gweithredol ac argymhellion (PDF 244 KB) PDF 253 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)