Trafodaeth ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn Sgiliau
Cynhaliodd Pwyllgor
Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru drafodaeth ar Fframwaith
Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn Sgiliau.
Cylch
Gorchwyl
Dechreuwyd rhoi fframwaith
Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau (pdf 863KB) ar
waith ddechrau mis Ebrill 2015:
- I ba raddau y bydd y polisi buddsoddi ar y cyd yn cynorthwyo i
gyflawni nod Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru yn datblygu mantais
gystadleuol o ran creu gweithlu cynhyrchiol a medrus”?
- A fydd cyflogwyr yn arfer yr egwyddor o fuddsoddi ar y cyd? A yw’n
debygol y bydd lefelau hyfforddiant yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i
hyn?
- Pa effaith (os o gwbl) y bydd rhagor o fuddsoddiad ariannol gan
gyflogwyr yn ei chael ar ansawdd cyrsiau hyfforddi a pha mor berthnasol
ydynt i’r farchnad lafur?
Fel rhan o’r Cylch Gorchwyl drafft hwn, efallai y bydd y
Pwyllgor am ystyried:
- A ddylai unrhyw hyfforddiant ychwanegol fod wedi’i eithrio o fuddsoddi
ar y cyd, er enghraifft, ar gyfer busnesau newydd?
- A oes dulliau eraill o rannu costau hyfforddiant, er enghraifft ardoll
hyfforddi?
- Defnyddio cyllid Ewropeaidd.
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/04/2015
Dogfennau
- Llythyr i'r Dirprwy Weindog Sgiliau a Thechnoleg ar y Fframwaith buddsoddi ar y cyd - 14 Gorffennaf 2015
PDF 194 KB
- * Ymateb Llywodraeth Cymru - 14 Awst 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 252 KB
Ymgynghoriadau