Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:15-09:50)

1.

Sesiwn Friffio ar yr Ymchwiliad (preifat)

Cofnodion:

1.1 Cyflwynwyd yr ymchwiliad newydd i Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl Dros 50 Oed i’r Aelodau.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwenda Thomas, Dafydd Elis-Thomas a Byron Davies. Dirprwyodd Suzy Davies ar ran Byron Davies am ran o’r cyfarfod.

(09.50-10.50)

3.

Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Daisy Cole, Cyfarwyddwr Lles a Grymuso, Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Iwan Williams, Arweinydd Cymunedau, Llywodraeth Leol a Llesiant, Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafwyd tystiolaeth gan Iwan Williams a Daisy Cole.

3.2 Cytunodd Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn i anfon awgrymiadau ynghylch sut y gallai cynllun sy’n debyg i gynllun cyfredol Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed gael ei strwythuro a’i gyllido.

(11.00-12.00)

4.

Canolfan Byd Gwaith

Huw Thomas, Uwch Reolwr Partneriaethau Grwp (Cymru), Canolfan Byd Gwaith

Kevin Morgan, Rheolwr Partneriaethau Grwp (Cymru), Canolfan Byd Gwaith

 

Cofnodion:

4.1 Cafwyd tystiolaeth gan Huw Thomas.

4.2 Cytunodd y Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

·         gwybodaeth bellach ac unrhyw ystadegau ar y cynllun gwarantu cyfweliad.

·         Ystadegau ar nifer y bobl dros 50 oed sy’n ymuno/gadael y broses hawlio lwfans ceisio gwaith.

·         unrhyw wybodaeth sydd ar gael o ran nifer y sancsiynau DWP/JCP i bobl dros 50 oed

·         copi o’r pecyn adnoddau a ddefnyddir gan eu hyfforddwyr gwaith

·         edrych i mewn i sefyllfa perchennog busnes bach o ran y system fudd-daliadau os yw’r perchennog hwnnw yn penderfynu cau’r busnes ei hun os yw’r busnes yn methu.

(13.00-14.00)

5.

Cynghrair Henoed Cymru ac Age Cymru

Graeme Francis, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Age Cymru

David Pugh, Prif Weithredwr, Cynghrair Henoed Cymru/Prime Cymru

Hayley Ridge-Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cynghrair Henoed Cymru/Prime Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafwyd tystiolaeth gan Graeme Francis, David Pugh a Hayley Ridge-Evans.

5.2 Cytunodd Prime Cymru i anfon awgrymiadau ynghylch sut y gallai cynllun sy’n debyg i gynllun cyfredol Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed gael ei strwythuro a’i gyllido.

(14:00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(14.15-15.00)

7.

Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.

8.

Papurau i'w nodi

8.1

Ymchwiliad Dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM): Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 27 Tachwedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.