Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Lynne Neagle.

 

(09.15 - 10.00)

2.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 9

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2 Cytunodd y Comisiynydd Pobl Hŷn i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         copi o'i llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi ei barn ar y Bil; ac

·         astudiaethau achos o'r effaith y gallai'r Bil ei chael ar bobl hŷn yng Nghymru.

 

(10.00 - 10.45)

3.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 10

Rosanne Palmer, Cyngrhair Henoed Cymru

John Moore, Fy Mywyd Mewn Cartref Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau.

3.2 Cytunodd Dr Rosanne Palmer i ddarparu nodyn ynghylch:

·         amheuon un o aelodau Cynghrair Henoed Cymru ynghylch ymestyn cofrestru i'r gweithlu gofal cymdeithasol cyfan; ac

·         Safbwynt Cynghrair Henoed Cymru ar sicrhau effeithiolrwydd ariannol yn ymwneud â defnyddio arolygwyr lleyg.

3.3 Cytunodd y tystion i ysgrifennu at y Pwyllgor i rannu eu barn ynghylch a ddylai'r Bil nodi y dylai'r rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau comisiynu a rhoi contractau i gwmnïau preifat gael eu hatal rhag gweithio i gwmnïau o'r fath o fewn cyfnod penodedig. 

 

(10.55 - 11.25)

4.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11

Loraine Brannan, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’

Pamela Cook, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’

Kelvyn Morris, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn sut y byddai'r Bil yn rhoi ystyriaeth i adolygiad annibynnol Dr Margaret Flynn o Ymgyrch Jasmine.

 

(11.25 - 11.55)

5.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12

Robin Moulster, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau’r Aelodau.

 

(11.55)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Cofnodion cyfarfod 23 Ebrill 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill.

 

6.2

Cofnodion cyfarfod 29 Ebrill 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill.

 

6.3

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): gwybodaeth ychwanegol gan Gynghreiriau Ailalluogi Cymru, Cynhalwyr Cymru a Gofal Cymdeithasol a Lles

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gynghreiriau Ailalluogi Cymru, Cynhalwyr Cymru a Gofal Cymdeithasol a Lles. Nododd fod y wybodaeth hefyd yn cael ei chymeradwyo gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru.

 

6.4

P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi: gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth:

  • cytunodd i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol yn gofyn iddi egluro ei disgwyliadau o ysbytai unigol wrth gymhwyso'r canllawiau proffesiynol ar drin babanod cynamserol iawn a gofalu amdanynt;
  • gofynnodd am bapur yn amlinellu'r dewisiadau ar waith ar y mater hwn yn y dyfodol, i'w ystyried fel rhan o drafodaeth blaenraglen waith yn y dyfodol; ac
  • cytunodd i roi gwybod i'r Pwyllgor Deisebau am benderfyniad y Pwyllgor.

 

6.5

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.

 

6.6

Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

(11.55)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 21 Mai 2015

Cofnodion:

7. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.55 - 12.05)

8.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ystyriodd y dystiolaeth a dderbyniwyd.

 

(12.05 - 12.15)

9.

Rheoliadau mewn perthynas â chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: trafod y dull o weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar reoliadau mewn perthynas â chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chytunodd arno.