Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams.

 

(09.30)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd a 24 Medi.

 

(09.30 - 10.30)

3.

Sesiwn friffio ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd

Dr. Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Chris Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Busnes y Llywodraeth a Chorfforaethol

Sue Bowker, Pennaeth Cangen Polisi Tybaco

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i ofyn am wybodaeth am nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio sigaréts electronig a chynhyrchion tybaco traddodiadol.

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch a oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol o ran isafswm prisio uned, yn ei farn ef, ac am unrhyw drafodaethau y mae'r Gweinidog neu ei swyddogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 16 Hydref 2014

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 11.15)

5.

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Trafod y dystiolaeth ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig.

 

(11.15 - 11.30)

6.

Trafod yr adroddiadau cynnydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

6.1

Adroddiad cynnydd ar: atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad cynnydd o ran gweithredu ar argymhellion y Pwyllgor.

 

6.2

Adroddiad cynnydd ar: marw-enedigaethau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid perthnasol yn gofyn am eu barn am yr adroddiad.

 

6.3

Adroddiad cynnydd ar: gweithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ohirio gwneud penderfyniad ar ymgymryd â gwaith dilynol tan ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes ar ddiwedd 2014.