Ymchwiliad un-dydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol
Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor
Cynhaliodd y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd
gwythiennol (VTE) ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru yn ystod gwanwyn/haf
2012.
Diben y sesiwn oedd archwilio sut y caiff canllawiau’r
Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) a’r adnodd
asesu risg, sef 1000 o Fywydau a Mwy, eu defnyddio ledled Cymru a pha mor
ddigonol ac effeithiol ydynt o ran atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE)
ymhlith cleifion mewn ysbytai. Trafododd y Pwyllgor hefyd ddefnydd ac
effeithiolrwydd proffylacsis ffarmacolegol a mecanyddol ar gyfer VTE ac a oedd
unrhyw broblemau penodol o ran rhoi mesurau ar waith i atal VTE.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y pwnc hwn.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad
(PDF, 498KB) ym mis Hydref 2012. Ymatebodd
(PDF, 205KB) Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2012. Cynhaliwyd y ddadl
yn y Cyfarfod Llawn ym mis Rhagfyr 2012.
Gwaith dilynol y Pwyllgor
Yn haf 2014, cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y
Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi
2014.
Mae’r diweddariad
gan y Gweinidog (PDF, 833KB) yn amlinellu bod y cynnydd mewn perthynas â
gweithredu argymhellion y Pwyllgor yn unol â’r hyn a ddisgwylir o ystyried yr
amserlen dan sylw. Yn sgil yr ymateb hwn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i beidio
ag ymgymryd ag unrhyw waith pellach ar y pwnc hwn ar hyn o bryd.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2012
Dogfennau
- Atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru - Adroddiad - Hydref 2012
PDF 498 KB
- Atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru - Ymateb y Llywodraeth - Tachwedd 2012
- Atal Thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru – Adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru – Medi 2014
PDF 833 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad un-dydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol (Wedi ei gyflawni)