Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru

Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru

Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor

 

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru yn ystod 2012/13.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd edrych yn fanwl ar faint o ymwybyddiaeth sydd o’r canllawiau a’r argymhellion cyfredol yn y sectorau gwahanol o ran atal marw-enedigaethau, yn arbennig marw-enedigaethau sy’n gysylltiedig â thyfiant gwael y ffetws a llai o symudiadau gan y ffetws. Roedd y cylch gorchwyl hefyd yn ystyried sut y mae’r canllawiau a’r argymhellion yn cael eu gweithredu, pa mor effeithiol ydynt, a lle y gellir gwneud newidiadau posibl.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y pwnc hwn.

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 794KB) ym mis Chwefror 2013. Ymatebodd (PDF, 225KB) Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2013. Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mai 2013.

 

Gwaith dilynol y Pwyllgor

 

Yn haf 2014, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi 2014.

 

Yn ei ddiweddariad (PDF, 422 KB)  dywedodd y Gweinidog, er gwaethaf y cynnydd a wnaed ar ymgysylltiad staff clinigol, mae rhagor o waith i’w wneud o hyd i weithredu argymhellion y Pwyllgor yn llawn. Yn sgîl yr ymateb hwn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i ystyried y pwnc hwn eto er mwyn ystyried pa mor effeithiol y bu Llywodraeth Cymru yn gweithredu naw argymhelliad y Pwyllgor.

 

Ym mis Hydref 2014, gwahoddodd y Pwyllgor y rhai a gyflwynodd dystiolaeth i’r ymchwiliad gwreiddiol i roi eu barn ar y cynnydd a wnaed hyd yma.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion hyn, ac ysgrifennodd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 205 KB) ar 26 Chwefror 2015. Cafwyd ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 98KB) ar 30 Mawrth 2015. Trafododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill. Yn dilyn yr ymateb hwn, nododd y Pwyllgor nad oes angen gwneud gwaith dilynol pellach ar hyn o bryd ac fe gytunodd i gau’r ymchwiliad.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/03/2012

Dogfennau

Ymgynghoriadau