Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Kirsty Williams.  Nid oedd dirprwyon.

(09.30 - 09.45)

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion polisi yr Undeb Ewropeaidd sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-13-11 papur 1

 

          Gregg Jones, y Gwasanaeth Ymchwil (drwy gyswllt fideo)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur â Gregg Jones o’r Gwasanaeth Ymchwil.

 

2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig, cymeradwyo cyffuriau ledled yr UE, a modelau gofal i’r henoed yng ngwledydd yr UE.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried materion polisi’r UE eto fel rhan o drafodaeth ehangach ar ei flaenraglen waith yn y dyfodol. 

(09.45 - 10.00)

3.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Cynllun gwaith y Pwyllgor

HSC(4)-13-11 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei gynllun gwaith ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.

(10.00 - 11.00)

4.

Papur Gwyn ar Roi Organau - Sesiwn friffio ar y materion technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru

HSC(4)-13-11 papur 3

 

Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Feddygol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y Papur Gwyn ar Roi Organau.

 

4.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn, y gofynnodd y Pwyllgor amdani:

·         rhestr o sefydliadau yn y trydydd sector sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn;

·         manylion am gyfarfodydd cyhoeddus ar y Papur Gwyn a fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol;

·         eglurhad ynghylch a yw’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yn gymwys yng Nghymru a Lloegr yn unig, neu hefyd yn cynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn debyg ar ddiwedd y broses o ymgynghori ar y Papur Gwyn.

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 24 Tachwedd

HSC(4)-11-11 cofnodion

HSC(4)-12-11 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 24 Tachwedd.

 

5.2 Nododd y Pwyllgor y papurau i’w nodi.

(11.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 7 ac 8

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer eitemau 7 ac 8.

(11.00 - 11.30)

7.

Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i leihau’r risg o strôc.

(11.30 - 11.45)

8.

Paratoi ar gyfer y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

8.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion y byddai’n eu crybwyll wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y sesiwn graffu ar 25 Ionawr 2012.

Trawsgrifiad