Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn
Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yn 2012/13. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a
ganlyn:
Ymchwilio i’r ddarpariaeth o ofal
preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn
a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:
- y broses a
ddilynir gan bobl hŷn wrth
iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn
y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.
- gallu’r
sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan
gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt,
nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.
- ansawdd
gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u
teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion
ymhlith pobl hŷn; a
rheolaeth ar gau cartrefi gofal.
- effeithiolrwydd
trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y
cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.
- darpariaeth
o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg
- y
cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol,
a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir
gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector, a landlordiaid cymdeithasol
cofrestredig.
Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar broses ymgynghori a gynhaliodd y
Pwyllgor yn hydref 2011 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn. Penderfynodd
y Pwyllgor ganolbwyntio’r ymchwiliad ar ofal
preswyl, ond, yn anochel, fe wnaeth trafodion gyffwrdd â materion sy’n
ymwneud â gofal nyrsio. Cytunodd y Pwyllgor i ganolbwytio ei sylw y
gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn.
Tystiolaeth
gan y
Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth
gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 222KB)
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu
tystiolaeth am y testun yma.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd
y Pwyllgor adroddiad (PDF, 1MB) ym mis Rhagfyr 2012. Mae crynodeb
o’r adroddiad (PDF, 139KB) ar gael hefyd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 277KB) yn
Chwefror 2013.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar 20
Chwefror 2013.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2011
Y Broses Ymgynghori
Dogfennau
- Gofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru - Adroddiad - Rhagfyr 2012
- Gofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru - Casgliadau allweddol ac argymhellion - Rhagfyr 2012
PDF 236 KB
- Gofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru - Ymateb Llywodraeth Cymru - Chwefror 2013
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl (Wedi ei gyflawni)
- Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn (Wedi ei gyflawni)