Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yn 2012/13. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Ymchwilio i’r ddarpariaeth o ofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:

 

  • y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.
  • gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.
  • ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.
  • effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.
  • darpariaeth o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg
  • y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector,  a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565