Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd
Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 7 Tachwedd 2011 i geisio barn
ar ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd, 'Cynigion ar
gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd: Papur Gwyn'. Daeth yr ymgynghoriad
i ben ar 31 Ionawr 2012. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru.
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy sesiwn friffio ffeithiol
gyda swyddogion Llywodraeth Cymru:
- sesiwn
friffio ar Bapur Gwyn y Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a
Meinweoedd (8 Rhagfyr 2011)
- sesiwn
friffio ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft (25
Hydref 2012)
Mae'r holl wybodaeth am ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) ar
gael ar wefan y Bil.
Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2016