Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 231KB) Gweld
fel HTML (269KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb
gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran
Gwenda Thomas AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(09.15 - 10.30) |
Ymchwiliad Etifeddiaeth: y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Manon Antoniazzi, Cyfarwyddwr, Twristiaeth, Treftadaeth a
Chwaraeon, Llywodraeth Cymru Kate Clark, Cyfarwyddwr, CADW Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth
Cymru Linda Tomos, Cyfarwyddwr, Is-adran Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: ·
Mae’n
Llywydd Côr Merched Treforys, noddwr Côr Clwb Rygbi Treforys, cefnogwr Côr
Orpheus Treforys, Llywydd Clwb Pêl-droed Ynystawe, Is-lywydd Clwb Pêl-droed
Tref Treforys, aelod o Glwb Rygbi Treforys, ac yn gefnogwr Clybiau Rygbi Y
Glais, Birchgrove a Bonymaen. 2.2 Datganodd Peter Black y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: ·
Mae’n Aelod o Ddinas a Sir Abertawe. 2.3 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Ken Skates
AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ·
Kate Clark,
Cyfarwyddwr, CADW ·
Natasha
Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sector a Busnes, Llywodraeth Cymru ·
Jon
Westlake - Pennaeth yr Is-adran Chwaraeon 2.4 Yn
ystod y cyfarfod, cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu i’r Pwyllgor gopi o’r
Memorandwm o Ddealltwriaeth a gytunwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU mewn perthynas ag adolygiad Siarter y BBC. Cytunodd y Dirprwy
Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn: ·
Gwaith
Llywodraeth Cymru ar arfer gorau ledled Ewrop ynghylch dulliau amgen o ddenu
cyllid ar gyfer y celfyddydau; yn gysylltiedig â hyn, dywedodd y Dirprwy
Weinidog y byddai’n gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru ddarparu papur briffio ar
gyfer Aelodau sy’n ymateb yn rhannol i’r gwaith hwn; ·
manylion yr
adroddiad disgwyliedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn sgil ei asesiad cyfredol
o effaith cyllid ar gyfer Celfyddydau a Busnes Cymru, a’i berfformiad; ·
manylion am
gapeli ac eglwysi rhestredig gwag/heb eu meddiannu, yn ôl gradd, a a
mynwentydd/safleoedd claddu; ·
rhagor o
wybodaeth am enghraifft Barcelona a nodwyd mewn perthynas â threfniadau ar
gyfer delio ag adeiladau rhestredig gwag, gan gynnwys argaeledd pwerau i roi
dirwyon; ·
rolau a
chyfrifoldebau’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, Bwrdd Ymgynghorol Amgylchedd
Hanesyddol Cymru, a Grŵp Treftadaeth Cymru. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y
papurau. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y
cynnig. |
||
(10.40 - 10.50) |
Ymchwiliad Etifeddiaeth: y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth. |
|
(10.50 - 11.10) |
Trafod y flaenraglen waith Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor
yr hydref a chytunodd i ymgymryd â’r gwaith canlynol: ·
ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC; ·
archwiliad o Fil Drafft Cymru Llywodraeth y DU mewn
perthynas â chylch gwaith y Pwyllgor, cyn gynted â phosibl ar ôl i’r Bil drafft
gael ei gyhoeddi; ·
craffu ar gyfrifoldebau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru a’i adroddiad blynyddol; ·
craffu ar ddiwygiad arfaethedig Llywodraeth Cymru o’r
Strategaeth Cynhwysiant Ariannol. |
|
(11.10 - 12.30) |
Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |