Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 419KB) Gweld fel HTML (521KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jeff Cuthbert.  Sandy Mewis yn bresennol fel dirprwyon.

09:00 - 10:30

2.

Sesiwn graffu gyffredinol: Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Carl Sargeant AM,  Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

 

  • Caniatâd ynni: Nodyn ar y rhesymeg ar gyfer y terfyn 350MW ar gyfer datganoli pwerau caniatâd ynni yn y dyfodol.
  • Cynllunio morol: Nodyn ar gyfarwyddeb cynllunio morol newydd y Comisiwn Ewropeaidd.
  • Ansawdd dŵr: Y meini prawf ar gyfer asesu a oes gan gorff o ddŵr 'statws ecolegol da'.
  • Ansawdd dŵr: Darparu cymhariaeth o'r ffigur o 42 y cant ar gyfer cyrff o ddŵr yng Nghymru sy'n sicrhau statws ecolegol da gyda chanran y cyrff o ddŵr mewn gwledydd eraill yn y DU a rhannau eraill o'r UE sy'n sicrhau statws ecolegol da.
  • Adolygiad Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru: Manylion am y cynnydd yn gweithredu'r saith argymhelliad na chânt eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys amserlen ar gyfer cwblhau'r argymhellion hyn.

 

10:30 - 12:00

3.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

 

Rebecca Evans AM, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr

Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1 Datgan buddiannau: Nododd William Powell ei fod yn bartner mewn busnes fferm sy'n cael taliadau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac mae'n aelod o Glastir Uwch.

 

3.2 Ymatebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 

3.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:

 

  • Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru: Darparu manylion am gylch gorchwyl y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, unwaith y byddant ar gael.

 

  • Adolygiad annibynnol o Glastir Uwch: Nodyn ar y cynnydd mewn perthynas â'r 10 argymhelliad a wnaed yn dilyn y gwerthusiad annibynnol o Glastir Uwch.

 

  • Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014: Nodyn ar effaith y Ddeddf Rheoli Ceffylau ar les ceffylau.

 

  • Lles anifeiliaid: Cadarnhau nifer y carcasau moch daear y cafodd Llywodraeth Cymru wybod amdanynt mewn ymateb i'w harolwg o foch daear marw a nifer y moch daear sydd â thwbercwlosis, unwaith y bydd y wybodaeth hon ar gael.

 

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

 4.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

4.1

Organebau a Addaswyd yn Enetig: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd

E&S(4)-28-15 Papur 3 (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

4.2

Organebau a Addaswyd yn Enetig: Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd

E&S(4)-28-15 Papur 4

Dogfennau ategol:

4.3

Adolygiad Blynyddol o'r Rheolau ar Fewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

E&S(4)-28-15 Paper 5

Dogfennau ategol:

4.4

Bil drafft Cymru: Gohebiaeth gan y Llywydd

E&S(4)-28-15 Paper 6

Dogfennau ategol:

4.5

Ymchwiliad i effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

E&S(4)-28-15 Paper 7

Dogfennau ategol:

4.6

Y broses o benodi cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymateb gan Brif Weinidog Cymru

E&S(4)-28-15 Paper 8

Dogfennau ategol:

4.7

Cyfoeth Naturiol Cymru - Rhaglen Forol: Crynodeb o Gynllun Gwaith 2015-2016

E&S(4)-28-15 Papur 9 (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

4.8

Cytundeb ar Safonau Rhyngwladol ar gyfer Trapio Heb Greulondeb: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

E&S(4)-28-15 Papur 10 (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

4.9

Ansawdd dŵr yng Nghymru: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

E&S(4)-28-15 Paper 11

Dogfennau ategol:

4.10

Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

E&S(4)-28-15 Papur 12 (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

4.11

Cysylltedd grid a datblygiad ynni adnewyddadwy morol ar Ynys Môn: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

E&S(4)-28-15 Papur 13

Dogfennau ategol:

4.12

Adroddiad annibynnol teithio llesol - Yr Athro Stuart Cole: Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

E&S(4)-28-15 Papur 14 (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol: