Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw, Llyr Gruffydd ac Antoinette Sandbach.  Bu Elin Jones ac Andrew R T Davies yn dirprwyo yn y cyfarfod.

 

 

(09:30)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 3, 7 ac 8

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(09:30 - 10:10)

3.

Bil Cynllunio Drafft (Cymru): Trafod y llythyr at y Gweinidog Tai ac Adfywio

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft, a chytunodd y byddai'r newidiadau a drafodwyd yn cael eu dosbarthu ar ffurf e-bost i'r Aelodau i'w cymeradwyo.

 

3.2 Os nad yw'n bosibl cytuno ar y newidiadau i'r llythyr drwy e-bost, cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cynnal trafodaeth bellach yn ystod ei gyfarfod nesaf.

 

(10:10 - 11:00)

4.

Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Tystiolaeth gan Dr Scott Le Vine

 

Dr Scott Le Vine, Y Ganolfan Astudiaethau Trafnidiaeth, Imperial College, Llundain

 

 

Cofnodion:

4.1 Bu Dr Le Vine yn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

(11:05 - 11:55)

5.

Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Tystiolaeth gan yr Athro Phil Goodwin

 

Yr Athro Phil Goodwin, Athro Trafnidiaeth, Prifysgol Gorllewin Lloegr

 

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd yr Athro Goodwin i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

6.

Papurau i’w nodi

6a

Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Sylwadau gan yr Athro Stuart Cole am y llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, dyddiedig 20 Rhagfyr 2013

E&S(4)-10-14 paper 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

6b

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Camau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod ar 5 Mawrth

E&S(4)-10-14 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

6c

Bil Cynllunio Drafft (Cymru) - Gwybodaeth ychwanegol gan Cymorth Cynllunio Cymru ac Un Llais Cymru

E&S(4)-10-14 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

6d

Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

          E&S(4)-10-14 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11:50 - 12:10)

7.

Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

1.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol ar gyfer yr adroddiad ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, fel y nodwyd yn y papur a drafodwyd.

 

(12:10 - 12:30)

8.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf.

 

8.2 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl ar gyfer cynnal ymchwiliad i goedwigaeth, a chytunodd y byddai'n ystyried cylch gorchwyl ar gyfer cynnal ymchwiliad i reoli gwastraff yn ystod ei gyfarfod nesaf.