Bil Cynllunio (Cymru) Drafft

Bil Cynllunio (Cymru) Drafft

Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor ar y Bil Cynllunio drafft a'r papur ymgynghori ar gynllunio cadarnhaol fel a ganlyn:

1.   Ystyried argymhellion o'r sail dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu cynigion Llywodraeth Cymru.  Mae'r sail dystiolaeth yn cynnwys:

·         adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol ar gynllunio;

·         adroddiadau ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y system gynllunio;

·         adroddiadau ymchwil perthnasol gan bwyllgorau'r Cynulliad.

 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar yr argymhellion na chafodd eu cynnwys, neu'r rhai sydd wedi'u haddasu.

 

2.   Ystyried cynigion deddfwriaethol eraill sy'n ymddangos gan Lywodraeth Cymru ac i ba raddau y mae'n glir sut y maent yn ymwneud â'r cynigion arfaethedig i'r system gynllunio (yn enwedig Bil yr Amgylchedd a Bil Cenedlaethau'r Dyfodol).

 

3.   Ystyried argymhellion adroddiad y Comisiwn Williams ar Gyflenwi a Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus a'i oblygiadau ar gyfer y newidiadau arfaethedig i'r system gynllunio.

 

4.   Ystyried newidiadau diweddar i'r system gynllunio yn Lloegr a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011 a newidiadau cynllunio diweddar neu arfaethedig yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac i ba raddau y mae newidiadau tebyg yn cael eu cynnig i Gymru.

 

5.   Ystyried unrhyw argymhellion gan gomisiwn Silk ynghylch cynllunio a'r setliad datganoli, os ydynt ar gael mewn pryd, ac i ba raddau y gall y cynigion yn ‘Cynllunio Cadarnhaol’ / y Bil Cynllunio drafft ymateb i’r rhain.

 

Bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth ac yn paratoi adroddiad erbyn toriad y Pasg i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch cynnwys terfynol y Bil Cynllunio y disgwylir i'r Cynulliad ei gyflwyno yn ddiweddarach yn 2014.

Yn amodol ar gytundeb Pwyllgor Busnes y Cynulliad, bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedyn yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio yn llawn yng Nghyfnod 1 yn ddiweddarach yn 2014.

 

 

Adroddiadau sail tystiolaeth:

Ymchwiliad i bolisïau Cynllunio yng Nghymru

 

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru

 

Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol

 

Dull Newydd o Reoli Datblygu yng Nghymru: Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru

 

Cyflenwi Gwasanaethau Cynllunio mewn Tirweddau sydd wedi'u Pennu'n Statudol yng Nghymru

 

Ymchwil i’r Adolygiad o’r System Gorfodi Cynllunio yng Nghymru

 

Ymchwil i'r ffordd y mae Pwyllgorau Cynllunio yng Nghymru'n gweithio

 

Gwerthuso’r broses caniatâd cynllunio ar gyfer tai

 

Agweddau’r cyhoedd tuag at y system gynllunio yng Nghymru

 

 

 

 

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/03/2014

Dogfennau