Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Abigail Phillips Deputy Clerk: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09:00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
09:00 - 09:05 |
Deisebau newydd |
|
P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Tai, Adfywio a Threftadaeth a Thai Cymunedol Bron Afon i ofyn am eu barn ar bwnc
y ddeiseb hon. Cytunwyd y byddai’r
tîm clercio yn rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau sy’n sensitif o
ran amser dros gyfnod y toriad. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a
chytunodd i: Ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar y ddeiseb; Cyfeirio’r
ddeiseb at y Grŵp
Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta. Nodwyd hefyd y bydd
adolygiad o’r fframwaith anhwylderau bwyd ymysg oedolion. |
||
09:05 - 09:35 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb hon a chytunodd i: Ysgrifennu at y
deisebydd yn ei longyfarch ar ei waith ar y mater hwn; Cau’r ddeiseb gan
fod y llawysgrif wedi’i brynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. |
||
P-04-324 Dywedwch na i TAN 8 - mae ffermydd gwynt a llinellau pŵer foltedd uchel yn difetha ein cymuned Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn sgîl cyhoeddi
adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Bolisi Ynni
a Chynllunio yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r deisebwyr a oes
ganddynt sylwadau cloi i’w gwneud cyn ystyried cau’r ddeiseb yn yr hydref. |
||
P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn sgîl cyhoeddi
adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Bolisi Ynni
a Chynllunio yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r deisebwyr a oes
ganddynt sylwadau cloi i’w gwneud cyn ystyried cau’r ddeiseb yn yr hydref. |
||
P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb hon a chytunodd i aros am
ganlyniad yr ymchwiliad gan Arolygiaeth Wledig Cymru. |
||
P-03-280 Ysbyty Brenhinol Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r mater hwn a chytunodd i aros am
benderfyniad ar uned newydd a ddisgwylir ym mis Awst 2012. |
||
P-04-395 Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y Llywodraeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y
ddeiseb hon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth. |
||
P-04-402 Gweddïau Cyngor Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
gyngor cyfreithiol mewn cysylltiad â phwnc y ddeiseb a chytunodd i aros am
ymateb y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i lythyr cychwynnol y
Cadeirydd. |
||
9.30 - 10.15 |
Sesiwn Dystiolaeth Lafar Sian-Marie James, Dirprwy Gadeirydd, Bwrdd Iechyd Hywel Dda Trevor Purt, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda Dogfennau ategol: |
|
P-04-394 Achub ein Gwasanaethau – Ysbyty Tywysog Philip |
||
P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty Cofnodion: Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor ar bwnc y
deisebwyr. Cytunodd y
tystion i roi manylion i’r Pwyllgor am y dulliau cyfathrebu amrywiol a
ddefnyddir yn y broses ymgysylltu. |
||
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y papurau. |
||
P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod Dogfennau ategol: |
||
P-04-341 Gwastraff a Llosgi Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Trafod y dystiolaeth a gafwyd yn eitem 4 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Annog y deisebwyr
i ymgysylltu â’r broses ymgynghori pan fydd yn dechrau; Cyflwyno crynodeb
o’r pwyntiau allweddol y mae’r Pwyllgor yn teimlo y dylai’r ymgynghoriad fynd i’r
afael â nhw. |
||
Trawsgrifiad |