P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn

P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn

P-04-407 : Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn

Geiriad y ddeiseb:  Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu cau Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer pobl hŷn.  Gorfodwyd y trigolion i adael yr adeilad a dod o hyd i rywle arall i fyw, am y rheswm ffug bod asbestos ynddo.  Nid yw trigolion y Llety wedi cael cefnogaeth i’w hachos gan neb, ac maent bron â rhoi’r ffidil yn y to.  Mae angen i ni eu cefnogi a’u cynorthwyo i aros yn eu cartref.  Mae rhai trigolion wedi cael eu symud eisoes, ac mae bygythiad i droi’r rhai sy’n weddill o’u cartref os na fyddant yn symud.  Mae Bron Afon yn targedu pobl agored i niwed, hŷn, syn 70 oed a throsodd.  Nid yw hyn yn deg, a rhaid rhoi terfyn arno. Maen anodd meddwl am y trigolion, yn y cyfnod hwn yn eu bywydau, yn dioddef y straen ar pryder o orfod cael eu hail-gartrefu. Llofnodwch y ddeiseb hon.

Gwybodaeth ategol:  Mae’r rhan fwyaf o’r trigolion hyn, ynghyd â’u cyndeidiau, wedi byw ym Mlaenafon ar hyd eu hoes.  Maent wedi cyfrannu at Flaenafon a’r gymuned. MAE ANGEN EIN CEFNOGAETH NI ARNYNT.’

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Georgina James

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  17 Gorffennaf 2012

Nifer y llofnodion:  19

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;