Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Abigail Phillips  Deputy Clerk: Sarita Marshall

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Dogfennau ategol:

09:30 - 10:00

2.1

P-04-341 Gwastraff a Llosgi – Tystiolaeth Lafar (drwy fideo-gynadledda)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tyst gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

 

 

10:00 - 10:10

2.2

P-04-341 Gwastraff a Llosgi – Trafod y dystiolaeth lafar a gyflwynwyd hyd yma

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Gyflwyno adroddiad ar losgi gwastraff a gwneud cais am drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn.

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn iddo ystyried faint o gefnogaeth sydd i’r ddeiseb hon wrth ystyried llythyr y Pwyllgor sy’n galw ar i gynlluniau llosgydd Caerdydd i gael eu galw i mewn;

Ysgrifennu at y bobl sydd wedi rhoi tystiolaeth am y pwnc i’r Pwyllgor yn gofyn am eu barn ynghylch y model a ddefnyddiwyd er mwyn bod yn sail i benderfyniadau mewn perthynas â llosgyddion.

 

 

 

10:10 - 10:20

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ragor o wybodaeth am gefndir Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant a gofyn a fyddai’n fodlon gweithio gyda’r Gweinidog perthnasol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatrys y problemau a ddisgrifiwyd gan y deisebwyr;

Ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Drafnidiaeth i ofyn a fyddai hi’n fodlon gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatrys y broblem, gan anfon copi at Owen Paterson AS.

 

 

 

3.2

P-04-394 Achubwch Ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:

Ysgrifennu at y deisebwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y mater;

Ysgrifennu at Gadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda i’w gwahodd i roi eu barn am yr ymgynghoriad i’r Pwyllgor mewn sesiwn dystiolaeth lafar;

Hysbysu’r prif ddeisebydd o’r camau y mae’r Pwyllgor yn eu cymryd ac ystyried rhoi gwybod am weithrediadau’r Pwyllgor yn ehangach unwaith y bydd dyddiadau’r ymgynghoriad yn hysbys.

 

 

 

10:20 - 10:45

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-03-220 Gostyngwch y terfyn cyflymder ar yr A40 ger y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i:

Gau’r ddeiseb;

Ysgrifennu at y deisebydd yn ailddatgan ymrwymiad y Gweinidog i ymgymryd â mesurau peirianyddol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, yn amodol ar argaeledd cyllideb.

 

 

 

4.2

P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r mater hwn.

Cytunodd y Pwyllgor i geisio gwybodaeth am y canlyniadau a’r pwyntiau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar ac i ofyn a yw’r Gweinidog yn ymgysylltu â’r grŵp.

 

 

 

4.3

P-04-377 Parhau i gael Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol

Dogfennau ategol:

4.4

P-04-392 Deiseb ar Drafnidiaeth Gymunedol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i anfon cyhoeddiad y Gweinidog at y deisebwyr i gael eu sylwadau arno, unwaith y bydd y cyhoeddiad ar gael.

 

 

 

4.5

P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Daeth gohebiaeth i law y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i:

Ysgrifennu at Arriva yn gofyn am gadarnhâd am ddyfodol y gwasanaeth presennol;

Ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gofyn am ei barn ynghylch a yw newidiadau i ddarpariaethau gwasanaeth bws yn tanseilio hawliau pobl hŷn yn y gymuned;

Ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn a oes unrhyw gynlluniau ganddo i adolygu’r sefyllfa o ran darparaiaethau’r Deddfau Trafnidiaeth sy’n gwahardd gwasanaethau a gaiff eu hariannu gan arian cyhoeddus rhag gweithredu mewn ardaloedd lle maent yn cystadlu â gwasanaethau masnachol, a gofyn iddo archwilio’r gwasanaeth Bwcabus yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

 

 

 

4.6

P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i ddychwelyd at y pwnc ar ôl ymweliad yr Aelodau â’r cyfleusterau newydd ym mis Mehefin.

 

 

 

4.7

P-04-376 Aildrefnu Addysg ym Mhowys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn perthynas â’r mater hwn, a chytunodd i ysgrifennu at y deiliad portffolio newyddd yng Nghyngor Sir Powys i’w hysbysu am y sefyllfa ac i ofyn am ei farn.

 

 

 

5.

Papur i’w nodi

5.1

P-03-301 Cydraddoldeb i’r Gymuned Drawsryweddol

Dogfennau ategol:

5.2

P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Dogfennau ategol:

19.1

P-04-368 Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

10:45 - 11:00

6.1

P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad i’w gyhoeddi, yn amodol ar wneud nifer o welliannau i’r argymhellion.

 

 

 

Trawsgrifiad