Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Dirprwyodd Mike Hedges AC ar ran Joyce Watson AC
am ran o'r cyfarfod. |
|
(9.30 -9.45) |
Deisebau newydd |
|
P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: • y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y • y Prif Weinidog; • Undeb y Brigadau Tân; ac • Awdurdodau tân yng Nghymru yn
gofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
||
P-04-536 Rhoi'r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y
Gweinidog Tai ac Adfywio; ac ·
y
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn
gofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
||
P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd; ac ·
y
Gweinidog Tai ac Adfywio yn
gofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
||
(9.45 - 10.30) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
yn croesawu ei ymateb ac yn gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor: ·
am strwythur ac aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen; ·
a fyddai'r Gweinidog yn ystyried enwebai o Goed Cadw ar gyfer
y Grŵp Gorchwyl a Gorffen; ac ·
am ganfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen
unwaith y bydd wedi cwblhau ei waith ac unrhyw gynllun gweithredu dilynol. Cytunodd
y Pwyllgor hefyd i anfon manylion am y ddeiseb ac ystyriaeth y Pwyllgor ohono
at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. |
||
P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y
Gweinidog i ofyn a fydd yn ystyried gweithio gyda Hitachi ar yr opsiynau ar
gyfer buddsoddi mewn technoleg glo glân yng Nghymru; a ·
Hitachi
ynghylch ei waith ar ddatblygu technoleg glo glân. |
||
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
|
||
P-04-460 Moddion nid Maes Awyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
gau'r
ddeiseb o ystyried y ffaith bod y deisebydd wedi nodi y gall y Pwyllgor ddod
â'i waith yn hyn o beth i ben ac y bydd yn chwilio am drywydd arall yn sgîl
penderfyniad y Gweinidog i gymeradwyo argymhelliad Grŵp Strategaeth
Feddyginiaethau Cymru Gyfan i beidio ag argymell Pegvisomant; a ·
monitro
cylchrediad Datganiad y Gweinidog am y camau nesaf yn sgîl yr adolygiad o'r
arfarniad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru. |
||
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru Dogfennau ategol: |
||
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd yn sgîl sylwadau'r
deisebydd y byddai:
|
||
P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyfeirio'r ddeiseb at y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w hystyried ar y cyd â Gorchymyn
Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso). |
||
P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd fod pwyntiau 1, 2 a 4 o'r
ddeiseb ar ei hôl hi ac ni ddylid bwrw ymlaen â hwy ymhellach ac y dylid
ystyried cau'r ddeiseb. Fodd bynnag, cyn
gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau
am bwynt 3 a gofyn am amserlen ar gyfer cyflwyno contract Cymru gyfan ar gyfer
darlithwyr addysg bellach. |
||
P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl
datganiad clir y Gweinidog am bolisi'r Llywodraeth mai cynllunio lleol a ddylai
benderfynu ynghylch anghenion tai lleol. |
||
P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn sir Gaerfyrddin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd y byddai'n gofyn am
esboniad cyfreithiol cyn bwrw ymlaen. |
||
(10.30 - 11.00) |
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Carl
Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio Joanne
Smith, Uwch-reolwr Cynllunio Rosemary
Thomas, Pennaeth Cynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd
Carl Sargeant AC gwestiynau'r Pwyllgor gyda Joanne Smith a Rosemary Thomas yn
ei gynorthwyo. |
|
Trawsgrifiad View the meeting transcript. |