P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân

P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau tân drwyr wlad yn cael eu gwarchod rhag toriadau llym yn y gyllideb, a fyddai, yn anochel, yn effeithio ar y gwasanaeth ac ar amseroedd ymateb.

Gwybodaeth ychwanegol:
Oherwydd toriadau llym yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, mae awdurdodau tân yn wynebu pwysau ariannol sylweddol ac maent yn cael eu gorfodi i leihau eu cyllidebau. Credwn y bydd hyn yn effeithio
n uniongyrchol ar amseroedd ymateb a gallai roi bywydau pobl mewn perygl. Gan mai Llywodraeth Cymru sydd âr cyfrifoldeb eithaf dros y gwasanaeth tân, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn ariannol yn yr un ffordd ag y gwnaeth gydar GIG, i warchod y gwasanaeth tân rhag toriadau yn y gyllideb.

 

Prif ddeisebydd:  Jonathan Edwards

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Chwefror 2014

 

Nifer y llofnodion: 698

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2014