Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.40 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Ardrethi Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.25 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Gwella uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.50 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Y wybodaeth ddiweddaraf am gydweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Arloesi Meddygol NDM5680 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol
sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder
meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal
iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10
Rhagfyr 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii). Gellir gweld y Bil yn: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/medicalinnovation.html
Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5680 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol
sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder
meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal
iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adolygiad o Addasiadau Byw'n Annibynnol NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i
barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl. 2. Yn nodi canfyddiadau'r Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol,
a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2015. 3. Yn cefnogi gweithredu gan Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth sydd ar
gael i bobl sydd angen tai wedi'u haddasu. Cewch weld copi o'r Adolygiad drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/review-independent-living-adaptations/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol
i lunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â
gwasanaethau addasiadau; b) gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi
safonau ar gyfer amseroedd darparu a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob
awdurdod lleol; c) archwilio gwasanaethau addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith;
a d) rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau
tymor hwy. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod y profion modd ar gyfer addasiadau yn annheg ac yn hen
ffasiwn. Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi argymhellion allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire
Disability a'r adroddiad No Place Like Home. Mae copi o'r adroddiad ar gael yma: http://www.leonardcheshire.org/who-we-are/publications/latest-publications-download/no-place-like-home#.VMpZXmYYTcs
(Saesneg yn unig) Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol
eithrio mân addasiadau o brofion modd, fel yr argymhellir yn yr adolygiad. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.24 NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol
yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl. 2. Yn nodi canfyddiadau'r
Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr
2015. 3. Yn cefnogi gweithredu gan
Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd angen tai wedi'u
haddasu. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod awdurdodau
lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn
amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau; b) gweithio gydag awdurdodau
lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a
sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol; c) archwilio gwasanaethau
addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a d) rhoi mecanweithiau ar waith
i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy. Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn credu bod y profion modd ar
gyfer addasiadau yn annheg ac yn hen ffasiwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn nodi argymhellion allweddol
yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place
Like Home. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd,
fel yr argymhellir yn yr adolygiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau
addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref
eu hunain am gyhyd â phosibl. 2. Yn nodi canfyddiadau'r
Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr
2015. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) sicrhau bod awdurdodau
lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn
amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau; b) gweithio gydag awdurdodau
lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a
sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol; c) archwilio gwasanaethau
addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a d) rhoi mecanweithiau ar waith
i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy. 4. Yn nodi argymhellion
allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad
No Place Like Home. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd,
fel yr argymhellir yn yr adolygiad.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.06 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |