Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Caiff Aelodau'r
Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog am unrhyw fater
sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd y Prif
Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod
cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn
cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob
Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r
Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad
a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar
gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Math o fusnes: Cwestiynau llafar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/06/2016