Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.37 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Adnewyddu'r Polisi Newid yn yr Hinsawdd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Iawndal TB - Y Camau Nesaf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.47 |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - Gohiriwyd |
||
(60 munud) |
Dadl: Dyfodol Datganoli i Gymru NDM5605 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Elin
Jones (Ceredigion) Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog y bydd Cymru yn
rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas Unedig. 2. Yn galw am gyd-drafodaethau sydd wedi’u llywio gan
ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys asesiad diweddar o lefel
bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y mae’n debygol o fynd yn y
dyfodol. 3. Yn galw ar y trafodaethau hynny, a ddylai ddechrau ar
unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i ganolbwyntio’n benodol ar ariannu
teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys
sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n
atal cydgyfeirio yn y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i: a) sicrhau bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru o ran
datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n cael eu rhoi i Ogledd
Iwerddon a’r Alban; b) datganoli Toll Teithwyr Awyr ar gyfer hediadau pellter
hir uniongyrchol; c) adolygu lefel y pwerau benthyca a roddir i Gymru ym
Mil Cymru; ac d) cydweithio â Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyhoeddi
ei bondiau ei hun. 5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os yw penderfyniad yn cael ei
gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau
amrywio trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru. 6. Yn ceisio cadarnhad y bydd y model Cadw Pwerau yn cael
ei sefydlu ar gyfer Cymru. 7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol. 8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud cynnydd o ran Silk
2. 9. Yn cadarnhau y dylid datblygu’r materion hyn ymhellach
mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol
San Steffan. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.15 NDM5605 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Elin Jones (Ceredigion) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymrwymiad y
Prif Weinidog y bydd Cymru yn rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas
Unedig. 2. Yn galw am gyd-drafodaethau
sydd wedi’u llywio gan ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys
asesiad diweddar o lefel bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y
mae’n debygol o fynd yn y dyfodol. 3. Yn galw ar y trafodaethau
hynny, a ddylai ddechrau ar unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i
ganolbwyntio’n benodol ar ariannu teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid
gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd
sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n atal cydgyfeirio yn y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i: a) sicrhau bod yr un pwerau’n
cael eu rhoi i Gymru o ran datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n
cael eu rhoi i Ogledd Iwerddon a’r Alban; b) datganoli Toll Teithwyr
Awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol; c) adolygu lefel y pwerau
benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; a d) cydweithio â Llywodraeth
Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun. 5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os
yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau amrywio
trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru. 6. Yn ceisio cadarnhad y bydd
y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru. 7. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau
etholiadol. 8. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i wneud cynnydd o ran Silk 2. 9. Yn cadarnhau y dylid
datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn
diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Datganiad gan y Llywydd Mae'r Cynulliad wedi siarad ag un llais heddiw, gan bennu
ei flaenoriaethau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru. Mae'r cynnig trawsbleidiol hwn yn pennu blaenoriaethau
clir. Rwyf bellach yn disgwyl i Lywodraeth
y DU gadw at ei haddewid i roi Cymru wrth wraidd dadl datganoli y DU. Mae'n amser i'r Cynulliad gael ei gydnabod fel deddfwrfa
barhaol gyda'r hawliau, y capasiti a'r statws cywir i ddarparu'r hyn y mae pobl
Cymru yn disgwyl ei gael. |
||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus NDM5599
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
2013-14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2014. Dogfen
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.06 NDM5599
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
2013-14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2014. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio. |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5602
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Anodd ei stumogi: clefyd seilag a'r angen i wella'r
ddarpariaeth o fwyd heb glwten yng Nghymru. Bwriad y ddadl hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o glefyd seilag
a'i ddiagnosis yng Nghymru yn ogystal â'r diffyg bwyd heb glwten mewn ysgolion,
ysbytai a chartrefi gofal. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.39 NDM5602
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Anodd ei stumogi: clefyd seilag a'r angen i wella'r
ddarpariaeth o fwyd heb glwten yng Nghymru. Bwriad y ddadl hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o glefyd
seilag a'i ddiagnosis yng Nghymru yn ogystal â'r diffyg bwyd heb glwten mewn
ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal. |
|
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |