Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 13
cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 3 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio
a Bwyd. Gwahoddodd y Diprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.17 Gofynnwyd y 12
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Cyfarfodydd i drafod y Diwydiant Dur Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.04 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016/17 NDM5868 David Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb
Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17, fel y nodir yn nhabl 1, 'Cyllideb Comisiwn
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2016-17', a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 4 Tachwedd 2015 ac sydd i'w hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan
Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau Ategol: Dogfen
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.31 Gohiriwyd y bleidlais
ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5868 David Melding (Canol
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2016-17, fel y nodir yn nhabl 1, 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru ar gyfer 2016-17', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 4 Tachwedd 2015 ac
sydd i'w hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii). Cynhaliwyd pleidlais
ar y Cynnig:
Derbyniwyd y Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5869 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwerthfawrogi'r
cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac
economaidd yng Nghymru; 2. Yn gwrthod pob math o
ragfarn tuag at bobl hŷn yng Nghymru; 3. Yn gresynu nad yw
pobl hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu yng Nghymru yn gallu cael
mynediad at yr un lefel o gymorth â phobl iau; 4. Yn gresynu y gall
diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael
mynediad at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd; a 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y
cyfleoedd sydd ar gael iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng
Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith yr amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd
nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) tair gwaith cymaint â
nifer y bobl NEET o dan 25 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a
gweithredu rhaglen benodol i wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros
50 nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant . Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn
sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth
ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny. Gwelliant 3 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith y gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol
leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl hŷn
i fyw'n annibynnol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.08 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5869 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae
pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru; 2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl
hŷn yng Nghymru; 3. Yn gresynu nad yw pobl hŷn sy'n dymuno
dychwelyd i'r gweithlu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at yr un lefel o
gymorth â phobl iau; 4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at
drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd
cymdeithasol ac economaidd; a 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r
gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael
iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith yr
amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn cyflogaeth,
addysg na hyfforddiant (NEET) tair gwaith cymaint â nifer y bobl NEET o dan 25
oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu rhaglen benodol i
wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad ydynt mewn
cyflogaeth, addysg na hyfforddiant . Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
Gwrthodwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod gan weithwyr
iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r
gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth ac y dylai rhaglenni
cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
Derbyniwyd Gwelliant 2. Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt 5 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at ffaith y
gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd
ar gael i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
Derbyniwyd Gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5869 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae
pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru; 2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl
hŷn yng Nghymru; 3. Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth
cyflogaeth ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny. 4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at
drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd
cymdeithasol ac economaidd; a 5. Yn gresynu at ffaith y gallai toriadau i gyllidebau
awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl
hŷn i fyw'n annibynnol. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r
gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael
iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cofio ac yn
anrhydeddu'r rhai sydd wedi aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid; 2. Yn talu teyrnged i'r
rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol
sy'n ddyledus iddynt gan bobl ledled Cymru; 3. Yn credu y byddai
sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn sicrhau gwasanaethau a
chanlyniadau gwell i gymuned y Lluoedd Arfog; 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sefydlu cerdyn
cyn-filwyr, yn cynnig cyfres o fuddion i aelodau’r lluoedd arfog a chyn-filwyr
i gydnabod eu gwasanaeth; b) gweithredu asesiad o
anghenion cyn-filwyr fel sail ar gyfer cyflenwi gwasanaethau; ac c) diogelu cyn-filwyr a
anafwyd cyn mis Ebrill 2005 drwy sicrhau nad yw eu Pensiwn Anabledd Rhyfel yn
cael ei gymryd oddi wrthynt pan fyddant yn cael gofal cymdeithasol. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pob dim ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei lle: 3. Yn croesawu'r ffaith fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi
Hyrwyddwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog; 4. Yn croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru; 5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y
Lluoedd Arfog. [os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ym mhwynt 4, dileu isbwynt a) a rhoi yn ei le: rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot ar gyfer cerdyn ci
gyn-filwyr i gynnig buddion i aelodau'r lluoedd arfog a chyn-filwyr i gydnabod
eu gwasanaeth. Gwelliant 3 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ym mhwynt 4, cynnwys is-bwynt newydd: gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyn-filwyr yn derbyn iawndal
priodol ar gyfer mesothelioma o ganlyniad i wasanaeth. Gwelliant 4 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion
i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid
digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y
gwasanaethau hanfodol hyn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cofio ac yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi
aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid; 2. Yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu
yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol sy'n ddyledus iddynt gan
bobl ledled Cymru; 3. Yn credu y byddai sefydlu Comisiynydd y Lluoedd
Arfog yng Nghymru yn sicrhau gwasanaethau a chanlyniadau gwell i gymuned y
Lluoedd Arfog; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sefydlu cerdyn cyn-filwyr, yn cynnig cyfres o
fuddion i bersonél y gwasanaethau a chyn-filwyr i gydnabod eu gwasanaeth; b) gweithredu asesiad o anghenion cyn-filwyr fel
sail ar gyfer cyflenwi gwasanaethau; ac c) diogelu cyn-filwyr a anafwyd cyn mis Ebrill 2005
drwy sicrhau nad yw eu Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei gymryd oddi wrthynt
pan fyddant yn cael gofal cymdeithasol.
Gwrthodwyd y
Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pob
dim ar ôl pwynt 2 a rhoi yn eu lle: 3. Yn
croesawu'r ffaith fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Hyrwyddwyr
Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog; 4. Yn
croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru; 5. Yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y Lluoedd
Arfog. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd
Gwelliant 1. Derbyniwyd gwelliant 1, felly
cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol Gwelliant 4 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu
cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion i
gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid
digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y
gwasanaethau hanfodol hyn. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 4:
Derbyniwyd
Gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cofio ac yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi
aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid; 2. Yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu
yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol sy'n ddyledus iddynt gan
bobl ledled Cymru; 3. Yn croesawu'r ffaith fod pob
awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Hyrwyddwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd
Arfog; 4. Yn
croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru; 5. Yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y Lluoedd
Arfog. 6. Yn
croesawu cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion
i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid
digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y
gwasanaethau hanfodol hyn.
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5870 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod costau
gofal plant yng Nghymru ymhlith y drutaf yn y byd datblygedig; 2. Yn nodi bod teuluoedd
yng Nghymru yn cael llai o ofal plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r
Alban; 3. Yn cydnabod
pwysigrwydd addysg gynnar i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig; 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynnig darpariaeth gyson o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled
Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar gyllideb 2014 rhwng
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu £0.4 miliwn dros
ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun peilot gofal plant
ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.57 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5870 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y
drutaf yn y byd datblygedig; 2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal
plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban; 3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi
cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson
o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1– Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar
gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i
ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a
chynllun peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd
Gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5870 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y
drutaf yn y byd datblygedig; 2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal
plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban; 3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi
cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson
o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru; 5. Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar
gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i
ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun
peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.39 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5867Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru) Heintiau sy'n cael eu
dal mewn ysbytai: yr heriau a'r atebion Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.49 Dadl Fer - Altaf Hussain
(Gorllewin De Cymru) Heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai: yr heriau
a'r atebion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |