Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Tachwedd 2015 i’w hateb ar 11 Tachwedd 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid yng Nghymru cyn etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ(4)0365(NR)

 

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am newidiadau i’r gyfundrefn o gyhoeddi gwybodaeth am ffermydd sydd wedi’u heintio â TB? OAQ(4)0380(NR)W

 

3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr? OAQ(4)0378(NR)

 

4. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad  am aelodaeth bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ(4)0370(NR)

5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgyngoreion statudol yn y broses gynllunio? OAQ(4)0372(NR)

6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad  am y gweithdrefnau ar gyfer rhyddhau dŵr o gronfeydd?OAQ(4)0371(NR)

7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad amffermydd cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)0366(NR)

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad amyr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r defnydd o’r amgylchedd lleol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0367(NR)

9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol? OAQ(4)0376(NR)

 

10. Jeff Cuthbert (Caerffili): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol wrth lunio eu Cynlluniau Datblygu Lleol? OAQ(4)0373(NR)

 

 

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa feini prawf y mae’r Gweinidog yn bwriadu eu defnyddio i ddynodi awdurdod cynllunio fel un sy’n perfformio’n wael? OAQ(4)0374(NR)W

 

12. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ardaloedd gwarchodaeth arbennig ar gyfer adar y môr yng Nghymru? OAQ(4)0377(NR)

 

13. Elin Jones (Ceredigion):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru am eu cymryd er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn gynllunio yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig? OAQ(4)0375(NR)W

 

14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael am effeithiolrwydd canllawiau MTAN2? OAQ(4)0379(NR)

 

15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfer safle cloddio glo brig Selar North? OAQ(4)0369(NR)

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

1. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyrraedd ei tharged ar dai fforddiadwy? OAQ(4)0387(CTP)

 

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu cymunedau mwy cydlynus yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0381(CTP)

 

3. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa anogaeth mae’r Gweinidog yn ei rhoi i’r sector tai cymunedol er mwyn darparu tai fforddiadwy yn ôl yr angen? OAQ(4)0396(CTP)W

 

4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynllun Troi Tai’n Gartrefi? OAQ(4)0386(CTP)

5. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog gwirfoddoli yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0391(CTP)

 

 

6. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gronfa Cymorth Dewisol Cymru? OAQ(4)0390(CTP)W

 

7. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau plant a phobl ifanc? OAQ(4)0384(CTP)

 

8. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a ddarperir i bobl ifanc sy’n gadael gofal sydd mewn perygl o ddigartrefedd? OAQ(4)0380(CTP)

9. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau tlodi mewn gwaith? OAQ(4)0389(CTP)

 

10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa waith monitro y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Dechrau’n Deg yn gweithio i’r rhai y mae ei angen arnynt fwyaf? OAQ(4)0394(CTP)

 

11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asedau cymunedol? OAQ(4)0393(CTP)

 

12. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Dechrau’n Deg yn ardal Taf-Elái? OAQ(4)0383(CTP)

 

13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith yn ardal adfywio cymoedd y gorllewin? OAQ(4)0382(CTP)

 

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i dderbyn ceiswyr lloches o Syria i Gymru? OAQ(4)0395(CTP)

 

15. Keith Davies (Llanelli):Pa asesiad sydd wedi’i wneud o berfformiad cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0392(CTP)W