Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Aled Roberts (Gogledd Cymru): O ystyried y dirywiad yng nghanlyniadau Cymru mewn perthynas â’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella, ar fyrder, y safonau addysg a chyrhaeddiad yng Nghymru?

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.24

Gofynnwyd cwestiynau 2 i 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 1 i’w ateb yn ysgrifenedig.

 

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Ymatebion i’r Papur Gwyn “Rhentu Cartrefi”

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.22

(60 munud)

5.

Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru)

 

NDM5376 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg (Cymru).

Gosodwyd Bil Addysg (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 1 Gorffennaf 2013.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Bil Addysg (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 22 Tachwedd 2013.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw rhan 3 wedi ei chynnwys mewn Bil anghenion addysgol arbennig ar wahân i blant a phobl ifanc.

 

Dogfennau Ategol

Bil Addysg (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Bil Addysg (Cymru)

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad ar y Bil Addysg (Cymru)

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5376 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol  Bil Addysg (Cymru).

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw rhan 3 wedi ei chynnwys mewn Bil anghenion addysgol arbennig ar wahân i blant a phobl ifanc.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5376 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol  Bil Addysg (Cymru).

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

28

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio o blaid y cynnig er mwyn caniatáu trafodaeth bellach o’r Bil yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3.

(5 munud)

6.

Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Addysg (Cymru)

 

NDM5377 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.37

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5377 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

28

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio o blaid y cynnig er mwyn caniatáu trafodaeth bellach o’r Bil yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3

(60 munud)

7.

Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Adolygu gweithrediad y Ddeddf

4, 1

 

2. Trefniadau trosiannol

6, 7

 

3. Cynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu

5, 5A, 3

Gwelliant 5 yw’r prif welliant yn y grŵp

Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwaredu yn y drefn: 5A, 5, 3

 

4. Ymgynghoriad gan y corff

8

 

5. Colli swyddi

2

 

Dogfennau Ategol

Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli

Grwpio Gwelliannau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Adolygu gweithrediad y Ddeddf

4, 1

 

2. Trefniadau trosiannol

6, 7

 

3. Cynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu

5, 5A, 3

Gwelliant 5 yw’r prif welliant yn y grŵp

Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwaredu yn y drefn: 5A, 5, 3

 

4. Ymgynghoriad gan y corff

8

 

5. Colli swyddi

2

 

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.

 

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5A:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

28

56

Gwrthodwyd gwelliant 5A.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

15

13

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

(5 munud)

8.

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

9.

Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Cyllid y GIG (Cymru)

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Trosolwg

1

 

2. Dyletswyddau ariannol Bryddau Iechyd Lleol

2

 

3. Dyletswyddau Cyllunio Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru

3

 

4. Cyflwyno Adroddiadau

4, 4A, 5, 7, 8

Bydd y gwelliannau hyn cael eu gwaredu yn y drefn - 4A, 4, 5, 7

 

5. Pŵer i fenthyca

6

 

Dogfennau Ategol

Bil Cyllid y GIG (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
Grwpio Gwelliannau

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.29

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Trosolwg

1

 

2. Dyletswyddau ariannol Bryddau Iechyd Lleol

2

 

3. Dyletswyddau Cyllunio Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru

3

 

4. Cyflwyno Adroddiadau

4, 4A, 5, 7, 8

Bydd y gwelliannau hyn cael eu gwaredu yn y drefn - 4A, 4, 5, 7

 

5. Pŵer i fenthyca

6

 

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.

 

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4A:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 4A.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

9

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 8.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

(5 munud)

10.

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.19

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: