R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyfleusterau chwaraeon ar hyd a lled Cymru? OAQ(4)0100(CS)W
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llyfrgelloedd yng Nghymru? OAQ(4)0092(CS)
3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar berchenogaeth gymunedol o chwaraeon? OAQ(4)0089(CS)
4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon? OAQ(4)0095(CS)
5. David Rees (Aberafan): Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gydag adrannau Gweinidogol eraill i gynorthwyo sector treftadaeth Cymru? OAQ(4)0099(CS)
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnydd Llywodraeth Cymru o gyrff o’r tu allan i Gymru i hyrwyddo digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)0097(CS)W
7. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran llunio Cofrestr o Feysydd Brwydrau Hanesyddol yng Nghymru? OAQ(4)0091(CS)
8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Sut y mae'r Gweinidog yn hyrwyddo'r defnydd effeithiol o randiroedd? OAQ(4)0101(CS)
9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu mesurau i annog pobl ifanc i gyfranogi mewn gweithgareddau artistig? OAQ(4)0090(CS)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu treftadaeth grefyddol Cymru? OAQ(4)0087(CS)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0094(CS)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer chwaraeon yng Nghymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0088(CS)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg? OAQ(4)0098(CS)
14. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu pencampwriaethau a gwyliau chwaraeon i Gymru? OAQ(4)0096(CS)W
15. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod adeiladau hanesyddol yng Nghymru? OAQ(4)0093(CS)