Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2013 i’w hateb ar 3 Rhagfyr 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch plismona yng Nghymru?OAQ(4)1374(FM)

 

2. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yng nghyswllt yr amgylchedd yn Nhorfaen? OAQ(4)1385(FM)

 

3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefel yr ardrethi busnes yn ne-ddwyrain Cymru?OAQ(4)1372(FM)

 

4. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyflog byw ymysg cyflogwyr yng Nghymru?OAQ(4)1373(FM)

 

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gynyddu ystod y teithiau hedfan o Faes Awyr Caerdydd?  OAQ(4)1386(FM)

 

6. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer biliau ynni yn Islwyn? OAQ(4)1375(FM)

 

7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu pobl hŷn yn eu cartrefi? OAQ(4)1380(FM)

 

8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai?  OAQ(4)1384(FM)

 

9. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu effaith polisïau iechyd Llywodraeth Cymru ar Ddwyrain De Cymru?OAQ(4)1379(FM)

 

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithdrefn asesu Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol y GIG yng Nghymru? OAQ(4)1376(FM)

 

11. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar undebau credyd?OAQ(4)1371(FM)

 

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr?   OAQ(4)1387(FM)

 

13. Eluned Parrott (Canol De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu niferoedd y teithwyr ar reilffyrdd ledled Cymru?OAQ(4)1383(FM)

 

14. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Prif Weinidog ymhelaethu ar y sylwadau a wnaeth yn ei araith ddiweddar yn yr Alban ar sefyllfa sterling mewn perthynas â Chymru?   OAQ(4)1370(FM)

 

15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am roi sganio gwegilog ar waith yng Nghymru? OAQ(4)1382(FM)