Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y
Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio. Gwahoddodd y Diprwy Lywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd cwestiynau 1 i
5, 7 a 9 i 11. Tynnwyd cwestiwn
6 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00 |
|
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu Dogfen Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.14 |
|
Pwynt o Drefn Cododd
Andrew RT Davies, Arweinydd yr Wrthblaid, bwynt o drefn yn gofyn am
benderfyniad ar y dogfennau a oedd wedi’u rhoi i Aelodau mewn perthynas â’r
Datganiad ar yr Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu, yn enwedig yr
Atodiad i’r Rhaglen Lywodraethu a oedd ond wedi’i roi ar-lein i Aelodau yn
hwyrach. Penderfynodd
y Dirprwy Lywydd fod disgwyl i ddogfennau y cyfeirir atynt mewn datganiadau fod
ar gael i Aelodau ac, oherwydd bod amheuaeth ynghylch beth oedd wedi’i roi y
prynhawn yma, cytunodd i adolygu Cofnod y Trafodion a dychwelyd at y mater pe
bai o’r farn bod angen penderfyniad pellach. |
||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ac ymateb i’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.15 |
|
(60 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol y Bil Teithio Llesol (Cymru) NDM5251 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Teithio
Llesol (Cymru) Gosodwyd y Bil Teithio Llesol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol
gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2013. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar y
Bil Teithio Llesol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 24 Mai 2013. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.50 NDM5251 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Teithio Llesol
(Cymru) Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Teithio Llesol NDM5252 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Teithio Llesol (Cymru), yn cytuno i
unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.46 NDM5252 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n
deillio o’r Bil Teithio Llesol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant
o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r
Bil. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio. |
||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |