R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Rebecca Evans (Mid and West Wales): A wnaiff y Gweinidog roi’r newyddion diweddaraf yn dilyn y tân yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru? OAQ(4)0035(CS)
2. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl ifanc ag anableddau i gael mynediad at chwaraeon? OAQ(4)0033(CS)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyfleusterau chwaraeon cyhoeddus yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0031(CS)
4. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyfleusterau nofio ar gyfer pobl ifanc?OAQ(4)0028(CS)
5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynnwys mwy o bobl yn y celfyddydau creadigol? OAQ(4)0032(CS)
6. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa bryd fydd y Gweinidog yn cyhoeddi ei fwriadau ynglŷn â threfniadau ar gyfer parciau cenedlaethol Cymru? OAQ(4)0024(CS)W – TYNNWYD YNOL
7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer amddiffyn treftadaeth bensaernïol yng Ngogledd Cymru?OAQ(4)0022(CS)
8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer ardaloedd cadwraeth yn Aberconwy? OAQ(4)0017(CS)
9. Rebecca Evans (Mid and West Wales):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo beicio? OAQ(4)0034(CS)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo treftadaeth filwrol Cymru? OAQ(4)0015(CS)
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r sector amgueddfeydd annibynnol?OAQ(4)0026(CS)
12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog amgueddfeydd i fenthyca arteffactau i sefydliadau eraill?OAQ(4)0025(CS)
13. Alun Ffred Jones (Arfon):Pa gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i glybiau pêl-droed yng Nghymru?OAQ(4)0018(CS)W
14. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwyliau cerddoriaeth fyw yng Nghymru? OAQ(4)0021(CS)
15. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i ymddiriedolaethau cefnogwyr yng Nghymru? OAQ(4)0030(CS)