R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y Cydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl?OAQ(4)1091(FM)
2. Ken Skates (De Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu economi Cymru yn y tair blynedd nesaf? OAQ(4)1095(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau brys y GIG? OAQ(4)1090(FM)
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gryfhau cydlyniant cymunedol? OAQ(4)1098(FM)
5. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n hyrwyddo cydlyniant cymunedol?OAQ(4)1102(FM)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o beryglon posibl rwbela? OAQ(4)1100(FM)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol undebau credyd yng Nghymru? OAQ(4)1088(FM)
8. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl yn y sector rhentu preifat? OAQ(4)1094(FM)
9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi cymuned Gymraeg Patagonia? OAQ(4)1101(FM)
10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau gwarant morgais Llywodraeth Cymru?OAQ(4)1093(FM)
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi busnes yng Ngogledd Cymru?OAQ(3)1103(FM)
12. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Twf Swyddi Cymru? OAQ(4)1096(FM)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ranbarth Dinesig Bae Abertawe?OAQ(4)1089(FM)
14. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Galw Iechyd Cymru yng Nghymru? OAQ(4)1097(FM)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):Pa bryd y mae’r Prif Weinidog yn disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad a yw am alw i mewn y cais cynllunio hybrid ar gyfer Pwll y Dwyrain ger Cwmllynfell ai peidio?OAQ(4)1092(FM)