Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 12
ac 14. Cafodd cwestiynau
7 ac 11 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.26 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.37 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.56 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Paratoadau ar gyfer y Gaeaf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.35 |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio – pwerau i gynnwys darpariaethau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio
sy’n ymwneud â phŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu
mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau Ategol
Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16.09 NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio
Rheoleiddio sy’n ymwneud â phŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu
mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2011-12 NDM5095 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12. Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12
drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.childcomwales.org.uk/uploads/publications/299.pdf Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod
gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu datganoli a
materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd
Plant Cymru, ac i ystyried gwneud y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru yn hytrach nag i’r Prif Weinidog yn unig. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag
Adroddiad Blynyddol 2011-12: a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw
rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o
ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid. Mae’r datganiad i’r wasg ar gael drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.complantcymru.org.uk/uploads/publications/302.pdf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.12 Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu
datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd
Plant Cymru, ac i ystyried gwneud y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru yn hytrach nag i’r Prif Weinidog yn unig. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag
Adroddiad Blynyddol 2011-12: a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw
rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o
ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5095 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu
datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru. Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag
Adroddiad Blynyddol 2011-12: a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw
rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o
ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.11 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen): Y
Storm Berffaith Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.13 NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen): Y
Storm Berffaith Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |