Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio

Mae Senedd y DU ar hyn o bryd yn ystyried Bil Llywodraeth y DU, sef Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ('y Bil').

 

Bwriad adrannau o'r Bil hwn yw deddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol, yn ôl confensiwn, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ('y Cynulliad') yn ystyried cydsynio â hyn. Mae'r Cynulliad yn gwneud hyn drwy ystyried cynnig cydsyniadau deddfwriaethol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae rhagor o wybodaeth am gynigion cydsyniad deddfwriaethol i'w chael yn hysbysiad hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6-Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol cyntaf wedi ei ddrafftio fel a ganlyn:

 

"Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy'n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

-        Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gyntaf, a goswyd ar 12 Mehefin 2012, ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=235055&ds=6/2012

 

-        Mae'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ar gael ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2012-13/enterpriseandregulatoryreform.html

 

-        Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 ar gael ar wefan legislation.gov.uk: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1991/56/contents

 

-        Hysbysiad hwylus y Gwasanaeth Ymchwil  Cyfres y Cyfansoddiad: 6 Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/qg07-0006.pdf

 

Gorffennaf 2012

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/11/2014