Grŵp Trawsbleidiol
Hawliau Defnyddwyr
Disgrifiad
Diben
Er nad yw’r rhan
fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hawliau defnyddwyr wedi’i datganoli,
diben y grŵp
hwn yw archwilio sut y gall pobl yng Nghymru fod yn fwy hyderus fel defnyddwyr
ynghylch yr ystod lawn o nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael ac sy’n dod i’r
amlwg mewn marchnad ddigidol sy’n tyfu’n barhaus.
Mae rhai pobl yn
profi mwy o anfantais nag eraill mewn perthynas â marchnadoedd. Nod y grŵp hwn fydd ystyried yr ysgogiadau a’r
cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad
llawn at nwyddau a gwasanaethau – gan gynnwys mynediad ariannol, daearyddol,
demograffig, diwylliannol, ieithyddol a chorfforol.
Deiliaid
swyddi
Cadeirydd: Sioned Williams AS
Ysgrifennydd: Alun Evans
Y cyfarfod
nesaf
Dyddiad: 25
Hydref 2023
Amser: 12:15-13:15
Lleoliad:
Dogfennau'r
Grŵp
Trawsbleidiol:
Cofnodion
cyfarfodydd blaenorol
Gwybodaeth gyswllt
Cyswllt:
Alun Evans
Aelodau
- Sioned Williams AS (Cadeirydd)
- Jane Dodds AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Mark Isherwood AS
- Alun Evans - Cyngor ar Bopeth