Amcangyfrif o incwm a threuliau Archwilio Cymru

Amcangyfrif o incwm a threuliau Archwilio Cymru

Archwilio Cymru yw nod masnachu dau endid cyfreithiol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae gan bob un ei bwerau a'i ddyletswyddau penodol ei hun:

>>>> 

>>>Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.

>>>Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro ac yn rhoi cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol.

<<< 

 

Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd, fel sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Senedd sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Wrth wneud cynigion cyllidebol, mae'r Pwyllgor Cyllid yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol roi sylw i'r Datganiad o Egwyddorion a gyhoeddir gan y Pwyllgor.

 

Mae'r holl wybodaeth am waith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar yr amcangyfrif o incwm a threuliau Archwilio Cymru i'w gweld isod:

 

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2024-25

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2022-23

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2019-20 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2021-22 (Y Bumed Senedd)

 

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2021