Pwyllgor o’r Senedd Gyfan - Y Bumed Senedd

Cylch gwaith

Yn unol â’r Rheolau Sefydlog, gellir sefydlu neu gynnull Pwyllgor o'r Senedd Cyfan at ddiben penodol. Mae rhestr o Bwyllgorau o'r Senedd Cyfan a gynhaliwyd yn ystod y pumed Senedd, ynghyd â'u diben a/neu eu cylch gwaith, wedi'i chynnwys isod:

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Cafodd y Pwyllgor ei gynnull ar 26 Ionawr 2021, yn unol â Rheol Sefydlog 26.103, pan gytunodd y Senedd y dylid trin Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil Brys. Ei gylch gwaith yw trafod gwelliannau i Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yng Nghyfnod 2.


Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Cafodd y Pwyllgor ei gynnull ar 18 Medi 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii). Ei gylch gwaith yw ystyried trafodion Cyfnod 2 mewn perthynas â’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Cafodd y Pwyllgor ei gynnull ar 6 Mawrth 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 26.103, pan gytunodd y Cynulliad y dylai’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gael ei drin fel Bil Brys. Ei gylch gwaith oedd ystyried gwelliannau i'r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yng Nghyfnod 2.

 

Aelodau'r Pwyllgor