<OpeningPara>
</OpeningPara>
Cylch gwaith
Yn unol â’r
Rheolau Sefydlog, gellir sefydlu neu gynnull Pwyllgor o'r Senedd Cyfan at ddiben
penodol. Mae rhestr o Bwyllgorau o'r Senedd Cyfan a gynhaliwyd yn ystod y pumed
Senedd, ynghyd â'u diben a/neu eu cylch gwaith, wedi'i chynnwys isod:
Bil Etholiadau
Cymru (Coronafeirws)
Cafodd y Pwyllgor
ei gynnull ar 26 Ionawr 2021, yn unol â Rheol Sefydlog 26.103, pan gytunodd y
Senedd y dylid trin Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil Brys. Ei gylch
gwaith yw trafod gwelliannau i Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yng Nghyfnod
2.
Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru)
Cafodd y Pwyllgor
ei gynnull ar 18 Medi 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii). Ei gylch
gwaith yw ystyried trafodion Cyfnod 2 mewn perthynas â’r Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru).
Bil Cyfraith
sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
Cafodd y Pwyllgor
ei gynnull ar 6 Mawrth 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 26.103, pan gytunodd y
Cynulliad y dylai’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gael
ei drin fel Bil Brys. Ei gylch gwaith oedd ystyried gwelliannau i'r Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yng Nghyfnod 2.