Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 18 Medi 2019 i archwilio
argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Cafodd y
Pwyllgor ei ddiddymu’n dilyn dadl yn ar ei adroddiad ar 7 Hydref 2020.
Cynigiodd y Llywydd y dylid sefydlu'r Pwyllgor yn dilyn
penderfyniad Comisiwn y Senedd ym mis Mehefin 2019 i beidio â chyflwyno
deddfwriaeth yn ystod y tymor hwn mewn perthynas â Cham 2 o Raglen
Diwygio'r Senedd.
Amcanion strategol
Nod y Pwyllgor oedd i:
- gydgrynhoi’r sylfaen dystiolaeth bresennol ac ychwanegu ati,
- hysbysu’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw, ac
- amlinellu trywydd ar gyfer diwygio, a hynny er mwyn llywio ystyriaeth
y pleidiau gwleidyddol o'u safbwyntiau polisi a'u maniffestos ar gyfer
etholiad y Senedd yn 2021.
Trawsgrifiadau
Ymholiadau wedi’u cwblhau
Lincs cyflym
Adran-Aelodau



<OpeningPara>Cafodd y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn
dadl ar ei adroddiad ar ddydd Mercher, 7 Hydref 2020.</OpeningPara>
<OpeningPara>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad,
Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb
o'i argymhellion.</OpeningPara>
<news>Cafodd y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl
ar ei adroddiad ar ddydd Mercher, 7 Hydref
2020.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=6593&Ver=4</link>
<news>Ar 5 Hydref 2020, ysgrifennodd y Cadeirydd at
y Llywydd i gynnig rhai myfyrdodau ar sefydlu pwyllgorau ‘gorchwyl a gorffen’ o
dan Reol Sefydlog 16.5</news><link>documents/s105897/Llythyr%20gan%20y%20Cadeirydd%20at%20y%20Llywydd%20Sefydlu%20pwyllgorau%20gorchwyl%20a%20gorffen%20o%20dan%20Reol%20Sefydlog%201.pdf</link>
<news>Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ar ddydd Iau,
10 Medi 2020</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=26542</link>