Cafodd y Pwyllgor
hwn o’r Pedwerydd
Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed
Cynulliad.
Sefydlwyd y
Pwyllgor ar 22 Mehefin 2011. Ei gylch
gwaith oedd archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy
graffu ar faterion yn ymwneud â gwariant, gweinyddiaeth a pholisi yn
cwmpasu: addysg, iechyd a lles plant a
phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.
Ar 22 Ionawr
2014, cytunodd y Cynulliad i newid cylch gwaith y Pwyllgor i gynnwys Addysg
Uwch. Parhaodd y pwnc yn rhan o gylch
gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes hefyd, gyda'r ddau bwyllgor yn ystyried
Addysg Uwch o'u safbwyntiau penodol. Enw
blaenorol y Pwyllgor oedd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
Trawsgridiadau
a gohebiaeth
Gwaith a gwblhawyd gan Y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg
Aelodaeth
Gellir gweld
rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad isod: