Pobl y Senedd

Simon Thomas

Simon Thomas

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud parthed effeithiolrwydd dull difa moch daear yn Lloegr fel modd o reoli’r diciau mewn gwartheg?

Wedi'i gyflwyno ar 19/07/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o osod targedau ynni cymunedol ar gyfer awdurdodau lleol, sicrhau nad oes llawer o oedi o ran cynllunio, cynorthwyo cymunedau sy'n gob...

Wedi'i gyflwyno ar 19/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella seilwaith ceir trydan Cymru drwy osod y pwyntiau gwefru'r cyflym y mae mawr eu hangen?

Wedi'i gyflwyno ar 19/07/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 50 milltir yr awr ynghyd â mesurau eraill mewn pum lleoliad ar ffyrdd Cymru er mwyn gwella...

Wedi'i gyflwyno ar 19/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet argymell i KeolisAmey ei fod yn caffael trenau sy'n rhedeg ar hydrogen, gan nad ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau lle y cânt eu defnyddio tra'n dileu'r...

Wedi'i gyflwyno ar 19/07/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i hyfforddi amaethwyr er mwyn galluogi ymestyn cyfnod silff carcasau ŵyn o Gymru?

Wedi'i gyflwyno ar 19/07/2018

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Simon Thomas

Bywgraffiad

Roedd Simon Thomas AC yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2011 a Gorffennaf 2018. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau gwleidyddol Simon yn cynnwys: yr amgylchedd; bwyd a materion gwledig; trafnidiaeth; datblygu rhyngwladol; ynni; a diwylliant, cyfryngau a chwaraeon.

Hanes personol

Mae Simon Thomas yn byw yn Aberystwyth gyda’i wraig; mae ganddynt ddau o blant.

Cefndir proffesiynol

Bu Simon yn gweithio fel llyfrgellydd cyn dod yn ymchwilydd i Gyngor Bwrdeistref Taf-Elái.  Bu hefyd yn weithiwr gwrthdlodi a Rheolwr Datblygu Gwledig i gwmni Jigso.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Simon ei ethol i Dŷr Cyffredin fel yr Aelod Seneddol dros Geredigion yn 2000 a 2001, gan ddod yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol.

Ar ôl colli ei sedd, daeth yn rheolwr datblygu gyda Technium yn sir Benfro. Yna, daeth yn uwch-gynghorwr arbennig i Lywodraeth Cymru, yn cynghori’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidogion eraill ym Mhlaid Cymru.

Cafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011 ac eto yn 2016.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Simon Thomas