Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Adam Price AC a Jenny Rathbone AC. |
|
(13.15 - 14.45) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan Ymchwil y Senedd PAC(5)-22-19 Papur 1 – Llywodraeth Cymru PAC(5)-22-19 Papur 2 – Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth
Cymru: Ymateb y DU i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar Ddatganoli Toll
Teithwyr Awyr i Gymru (6 Medi 2019) Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones - Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith
Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd. 2.1
Datganodd Simon Jones fuddiant fel Cadeirydd Holdco. 2.3
Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch: ·
Nifer y
llwybrau a’r cyrchfannau yr oedd Thomas Cook yn gweithredu o Faes Awyr
Caerdydd; ·
Pa ddata y
mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi mewn perthynas â gwerth cymhorthdal PSO,
nifer y teithwyr ac asesiad gwerth am arian y gwasanaeth ar gyfer y contractau
blaenorol ar gyfer y Gwasanaeth Awyr o fewn Cymru; a ·
Chadarnhau
a yw nifer swyddogion Llu’r Ffiniau wedi cynyddu yn y maes awyr fel rhan o’r
gwaith cynllunio wrth gefn at Brexit. 2.4 Cytunodd
y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o
faterion perfformiad ariannol yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd. |
|
(14.45 - 15.00) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-22-19 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a
chytunodd i ofyn am eglurhad ar Argymhelliad 4 ynghyd â dyraniad cyllid y bydd
pob bwrdd iechyd yn ei gael er mwyn gwella eu targedau cleifion allanol. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00 - 15.30) |
Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai ymweliad
â’r maes awyr yn fuddiol. |