Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 3(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Datganiad y Llywydd Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gwnaeth
y Llywydd ddatganiad ynglŷn
â’r iaith a ddefnyddiwyd yn y siambr yr wythnos diwethaf gan Arweinydd grŵp
UKIP. Ar ôl
edrych ar Gofnod y Trafodion, dywedodd y Llywydd nad oedd ganddi unrhyw
amheuaeth fod Neil Hamilton AC wedi tramgwyddo’r Rheolau Sefydlog sy’n gwahardd
iaith sy’n groes i’r drefn, iaith sy’n gwahaniaethu neu sy’n peri tramgwydd neu
iaith sy’n amharu ar urddas y Cynulliad. Eglurodd y Llywydd ei bod wedi rhoi
gwybod iddo’n breifat yr hyn y mae’n ei ddisgwyl, a’i bod yn ddiolchgar iddo am
dderbyn ei barn ar y mater hwn. Dywedodd
y Llywydd y byddai’n annog dadl fywiog, egnïol a chadarn, ond bod yn rhaid i
Aelodau fod yn ddigon abl i wneud hynny heb dynnu oddi wrth urddas y Cynulliad
na sarhau integriti Aelodau eraill. Cyn belled â’u bod yn gwneud hynny,
byddai’r holl Aelodau yn cael eu clywed, beth bynnag fo’u plaid. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.33 Gofynnwyd yr 11
cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 ac 11 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am
14.26 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ynghylch y newyddion bod y cymorth a
roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd ran-amser yng Nghymru wedi dod i ben? |
||
(30 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodiadau i'r Cabinet Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.31 |
|
(5 munud) |
Cynnig i benodi Aelodau'r Pwyllgor Busnes NNDM6016 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol
Sefydlog 11.3: Yn penodi'r Llywydd, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas
(Plaid Cymru), Paul Davies (Y Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru)
yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.58 NNDM6016 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3: Yn penodi'r Llywydd, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas
(Plaid Cymru), Paul Davies (y Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru)
yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i gyflwyno Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn nesaf Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.59 Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.10, gall y Cynulliad ystyried hefyd: (i)
unrhyw fusnes o dan Reol Sefydlog 12.16; a (ii)
unrhyw fusnes
arall y mae’r Cynulliad yn cytuno arno drwy benderfyniad. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |