Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mai 2016
 i'w hateb ar 24 Mai 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o ddoctoriaid? OAQ(5)0002(FM)W

 

2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau i'r seilwaith drafnidiaeth yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0015(FM)

 

3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant dur? OAQ(5)0010(FM)

 

4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnbwn Llywodraeth Cymru i ddatblygiad Wylfa Newydd? OAQ(5)0013(FM)W

 

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau canser yng Nghymru? OAQ(5)0012(FM)

 

6. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith drafnidiaeth yng Nghwm Cynon am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0005(FM)

 

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad O'Neill ar y bygythiad i iechyd dynol sy'n deillio o orddefnyddio gwrthfiotigau? OAQ(5)0007(FM)

 

8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu plant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain sydd newydd gyrraedd Ewrop? OAQ(5)0018(FM)

 

9. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru? OAQ(5)0008(FM)

 

10. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i Lywodraeth y DU ynghylch dyfodol cynllun pensiwn y glowyr? OAQ(5)0006(FM)

 

11. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r saith sefydliad sydd wedi mynegi diddordeb posibl mewn prynu Tata Steel UK? OAQ(5)0004(FM)

 

12. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ(5)0011(FM)

 

13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0001(FM)

 

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0009(FM)

 

15. Nathan Gill (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y refferendwm a addawyd ar bwerau codi trethi? OAQ(5)0014(FM)