Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 274KB) Gweld
fel HTML (333KB) |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 1.3
Datganodd Sandy Mewies AC fuddiant fel Aelod o Gomisiwn y
Cynulliad. |
|
(09:00 - 09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Gwybodaeth ychwanegol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol: |
||
(09:05 - 10:35) |
Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: PAC(4)-25-15 Papur 1 Briff Ymchwil Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth
Cymru Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth
Cymru Gawain Evans - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru ar
gyfer 2014-15, gan holi Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, David Richards,
Cyfarwyddwr Llywodraethu, Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Gawain
Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd Syr Derek Jones i anfon rhagor o wybodaeth am y materion
canlynol: · Manylion y
traffig i wefan Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru a nifer y bobl a fu’n ymweld
â’r wefan, i roi arwydd ynghylch nifer y darllenwyr. · Rhesymau pam y
mae swm y gwastraff bwyd drwy ystâd Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ers 2013-14 · Rhesymau pam
nad yw cronfa risg y GIG wedi cael ei nodi fel eitemau unigol yn y cyfrifon
cyfunol ar gyfer 2014-15 fel y bu yn y gorffennol, ac eglurhad ynghylch pam nad
yw’r wybodaeth hon wedi cael ei nodi yn y cyfrifon · Darparu
dadansoddiad llawn o’r eitemau nad ydynt yn arian parod a gwariant a reolir yn
flynyddol, a chynnwys y ffigurau ar gyfer 2013-14 er mwyn eu cymharu · Sut y mae
Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rheoli arian parod, ac yn benodol y
tanwariant o £86.8m yn ymwneud â byrddau iechyd · Manylion ar yr
hyn y mae’r £19.6m ar gyfer cyfrifoldebau eraill yn ei gynnwys · Pryd yr oedd
disgwyl cael y derbynebau gwreiddiol ar gyfer y taliadau arbennig yn ymwneud â
Chwmni Peirianneg Tryst a Swyddfa Desk Link · Y sefyllfa o
ran ailstocio cyffuriau gwrth-firol ar gyfer achosion o ffliw pandemig · Achos y
colledion o ran Dewis Gyrfa Cyf 3.3 Wrth ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnodd yr Aelodau i’r
Ysgrifennydd Parhaol anfon manylion ynghylch sut y bydd ei strategaeth i
sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau o 50:50 erbyn 20:20 yn cael ei gyflawni. |
|
(10:35-10:45) |
Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gohebiaeth y Pwyllgor PAC(4)-25-15 Papur 2 – Llythyr gan Owen Evans, Dirprwy
Ysgrifennydd Parhaol, Y Grwp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
(14 Medi 2015) PAC(4)-25-15 Papur 3 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol
Cymru (29 Medi 2015) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd yr aelodau yr ohebiaeth. 4.2 Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn gofyn i
lywodraeth leol ddarparu gwybodaeth fanylach am yr hyn yw bwriad pob cronfa
wrth gefn a sut y maent yn disgwyl eu gwario dros gyfnod o amser. 4.3 Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn annhebygol y bydd y Pwyllgor yn
ailedrych ar y mater hwn cyn diwedd tymor y Cynulliad. |
|
(10:45-10:50) |
Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(4)-25-15 Papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cytunodd yr Aelodau y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ragor o eglurhad ar yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor. |
|
(10:50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 7 ac eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 12 Hydref 2015 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:50 - 11:00) |
Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |