Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AC a Kirsty Williams AC.  Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon.

 

1.2     Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’u swyddogion i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14: Craffu ar waith y Gweinidog - sesiwn ddilynol

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas AC, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Integreiddiad

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol Gofal heb ei Drefnu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14.

 

2.2     Yn ystod y cyfarfod cytunwyd ar y pwyntiau canlynol:

  • Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu rhagor o fanylion ynghylch nifer y wardiau a gaewyd yn ystod gaeaf 2013/14 yn sgil achosion o’r norofeirws.
  • Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau parafeddygol yng Nghymru, gan gynnwys: canran y parafeddygon sydd wedi dod yn uwch-barafeddygon yn ystod y blynyddoedd diweddar, cadarnhad ynglŷn â faint o uwch-barafeddygon sy’n ymarfer yng Nghymru; a rhagor o fanylion am eu cynlluniau hyfforddi presennol ac yn y dyfodol.
  • Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y caiff manylion am gyllid a ddyrannwyd o dan y Gronfa Gofal Canolraddol - a phob cynllun perthnasol - eu cyhoeddi ar lefel ranbarthol a’u rhannu â’r Pwyllgor. Ar ben hynny, nododd y Dirprwy Weinidog y caiff gwersi a ddysgwyd ar draws y sectorau perthnasol yn sgil y broses hon eu cyhoeddi.
  • Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu’r datganiadau o fwriad a gyhoeddwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol a phartneriaid perthnasol eraill yn unol â fframwaith Llywodraeth Cymru ar ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig unwaith y byddant yn barod.

 

(11.00)

3.

Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) ar gyfer eitem 4, a Rheol Sefydlog 17.42 (ix) ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

3.1     Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

4.

Ystyriaeth o’r dystiolaeth a roddwyd yn y sesiwn ar ofal heb ei drefnu

(11.30 - 12.00)

5.

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: trafod y prif faterion

(13.00 - 14.00)

6.

Ymchwiliad i’r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 15

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan

Yr Athro Phil Routledge, Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

7.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

7.1.    Nododd y Pwyllgor Gofnodion ei gyfarfodydd ar 20 Mawrth a 26 Mawrth 2014, a’r ohebiaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch cyhoeddi ei chynllun gweithredol ar gyfer 2014-15.

 

7a

Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol: 20 Mawrth a 26 Mawrth 2014

Dogfennau ategol:

7b

Gohebiaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: cyhoeddi ei chynllun gweithredol ar gyfer 2014-15

Dogfennau ategol:

(14.00)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar 30 Ebrill 2014

Cofnodion:

8.1.    Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.