Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus. 1.2
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Natasha Asghar
AS a Rhianon Passmore AS. 1.3 Roedd Peter
Fox AS yn dirprwyo ar ran Natasha Asghar AS yn y cyfarfod. |
|
(9:15-9:30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Gyfrifon Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
(9:30-11:00) |
Sesiwn ar Llawlyfr y Cabinet a Thrafodaethau Mynediad Swyddogion
Llywodraeth Cymru David Richards - Cyfarwyddwr
Priodoldeb a Moeseg Rachel
Garside-Jones - Cyfarwyddwr dros dro Swyddfa’r Prif Weinidog Matthew Hall - Pennaeth
Is-adran y Cabinet Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd yr
Aelodau sesiwn friffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru a chyfle i ofyn
cwestiynau am Lawlyfr y Cabinet a thrafodaethau mynediad. |
|
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(11:10-11:40) |
Trafod y dystiolaeth a gafwyd - Llawlyfr y Cabinet a Thrafodaethau Mynediad Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y sesiwn friffio a chytunodd i aros am yr wybodaeth ychwanegol yr oedd
y swyddogion wedi cytuno i’w rhoi yn ystod y sesiwn, cyn penderfynu ar y camau
pellach yr hoffai eu cymryd i ymdrin â’r mater hwn. |