Craffu ar Gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2022-23

Craffu ar Gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2022-23

Sefydlwyd swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 gyda chyfrifoldeb am hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy ymhlith cyrff cyhoeddus, yn amodol ar ofynion y Ddeddf.

 

Yn y Bumed Senedd, roedd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddiddordeb brwd yng ngwaith y Comisiynydd ac ym mis Hydref 2017 craffodd ar y cyfrifon cyntaf a baratowyd gan y Comisiynydd cyntaf, a oedd yn cwmpasu’r cyfnod o 14 mis o’r dyddiad y sefydlwyd y swydd. (1 Chwefror 2016 i 31 Mawrth 2017). Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bum argymhelliad yn ei adroddiad ynghylch craffu ar gyfrifon 2016-17, yn ymwneud yn benodol â'r Comisiynydd (Argymhellion 5 i 9). Ym mis Mawrth 2018, ymatebodd y Comisiynydd cyntaf i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

Yn y Chweched Senedd, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol waith craffu blynyddol ar waith y Comisiynydd cyntaf a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Ebrill 2022. Ar 7 Ebrill 2022, ysgrifennodd y Cadeirydd at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i’w gwneud yn ymwybodol o argymhelliad 1 sef y dylai’r pwyllgor hwnnw gynnal adolygiad o drefniadau adnoddau Comisiynwyr Cymru.

 

Ymatebodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddweud bod argymhelliad 1 wedi’i nodi, ac yn ogystal, fod y Pwyllgor yn cytuno i ddychwelyd i gynnal graffu pellach ar waith Comisiynwyr Cymru, fel rhan o’u gwaith craffu ar gyfrifon blynyddol.

 

Ymhellach i argymhelliad yr adroddiad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ymholiad i ariannu Comisiynwyr yng Nghymru a chyhoeddi ei adroddiad, 'Adolygiad o Gomisiynwyr Cymru', ym mis Gorffennaf 2023. Gwnaeth 16 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Ym mis Awst, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r Adroddiad. At hynny, gwnaeth y Comisiynydd ysgrifennu at y Pwyllgor ar ôl ei gyhoeddi.

 

Roedd y Pwyllgor eisoes wedi nodi materion yn ymwneud ag arferion caffael yn Swyddfa’r Comisiynydd ac ar 26 Ionawr 2023 – wedi nodi’n breifat – bod y Cadeirydd wedi cael pryderon gan aelod o’r cyhoedd ynghylch caffael gwaith a gomisiynwyd gan y Comisiynydd cyntaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y materion hyn gyda'r Comisiynydd newydd, ac fel rhan o'i waith craffu ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i waith y pwyllgor a'i rhagflaenodd ac argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ochr yn ochr â materion a godwyd yn ymwneud â'r Adroddiad Blynyddol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol (“y Comisiynydd”) a’r Prif Swyddog Gweithredu a Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar 25 Hydref 2023.

 

Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Comisiynydd i wneud gwaith dilynol ar nifer o faterion nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan y Comisiynydd ar 5 Rhagfyr 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Graffu ar Gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2022-23 ar 5 Mawrth 2024.

 

Cafodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 yn yr adroddiad ym mis Ebrill 2024, a daeth ymateb Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i’r adroddiad i law ym mis Mai 2024. Trafododd y Pwyllgor y ddau ymateb ym mis Mai 2024.

 

Ysgrifennodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru at y Pwyllgor ar 28 Mawrth 2025 gyda diweddariad ar argymhellion 8 a 10 yn yr adroddiad o'r enw: 'Craffu ar Gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2022-23'. Nododd y Pwyllgor y llythyr yn ei gyfarfod ar 1 Mai 2025.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2024

Dogfennau